Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi Dr David Clubb fel Darpar Gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Bydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd yn cynnal gwrandawiad cyn penodi gyda Dr Clubb ar 30 Medi.

Mae John Lloyd Jones OBE yn gadael NICW ar ôl tair blynedd fel Cadeirydd gyda'm diolch am ei wasanaeth a'i ymrwymiad.

Rydym yn wynebu heriau enfawr o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a bwriadaf fireinio ffocws y comisiwn yn y maes hwnnw. Mae gan Dr Clubb gymwysterau rhagorol gan gynnwys profiad helaeth o'r sector ynni adnewyddadwy. Rwy'n hyderus y byddai’r comisiwn yn gwneud cyfraniad sylweddol at gynllunio seilwaith hirdymor o dan arweinyddiaeth Dr Clubb.

Yn dilyn y gwrandawiad, fy mwriad yw dechrau proses recriwtio agored i benodi comisiynwyr i weithio ochr yn ochr â Dr Clubb.