Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y bydd codiad cyflog i wobrwyo ein hathrawon hynod fedrus a gweithgar yng Nghymru.
Cyhoeddais ar 11 Mehefin, fy mod, yn amodol ar ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, wedi cytuno mewn egwyddor i dderbyn holl argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyfer 2021/22 gan gynnwys:
- Cyflwyno codiad cyflog o 1 Medi 2021 i ddarparu ar gyfer cynnydd o 1.75% i bob graddfa gyflog a lwfans
- Egluro a/neu adolygu polisi mewn perthynas â thelerau ac amodau presennol penodol.
Rydw i bellach wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw a gallaf gadarnhau nad oes dim byd newydd wedi dod i'r amlwg sy'n gofyn am unrhyw ailystyried sylweddol o ran y codiad cyflog arfaethedig i athrawon ar gyfer 2021/22.
O ganlyniad, byddaf yn gwneud Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021 cyn bo hir, a fydd yn gwneud Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021 yn weithredol.
Caiff y codiad cyflog ei ôl-ddyddio i 1 Medi 2021.
Dyma'r drydedd flwyddyn, ers datganoli pwerau dros gyflog ac amodau athrawon, lle'r ydym wedi gallu cyflwyno newidiadau i wella cyflogau ac amodau i athrawon yng Nghymru. Croesawaf gyfraniad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru i hyn a diolchaf i'r aelodau am eu gwaith.
Derbyniaf bob un o'r deuddeg argymhelliad gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, gan gynnwys cynnydd o 1.75% i Gyflogau Athrawon ar bob graddfa gyflog a lwfans, ac rwy’n croesawu'r cyfle i gydweithio â rhanddeiliaid ar adolygiad cynhwysfawr o strwythur cyflog ac amodau athrawon ac arweinwyr. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd pellach i ni ddatblygu system genedlaethol fwy pwrpasol i ni yma yng Nghymru, sydd nid yn unig yn gwella ac yn mireinio'r system ond sydd hefyd yn decach ac yn fwy tryloyw i bob athro.
Yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i rewi cyflogau'r sector cyhoeddus, ni chafodd Llywodraeth Cymru unrhyw arian ychwanegol drwy fformiwla Barnett i ddarparu ar gyfer dyfarniadau cyflog ar draws y sector cyhoeddus yn 2021-22, ac eithrio'r GIG a'r rhai ar y cyflogau isaf.
Mae hwn yn benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU ond mae iddo ganlyniadau uniongyrchol i Gymru. Y bwriad oedd y byddai awdurdodau lleol yn talu unrhyw gostau ychwanegol sy'n deillio o'r codiad cyflog hwn o'r cynnydd yn y cyllid a ddyrennir i awdurdodau lleol o Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Cynnal Refeniw, ynghyd â darpariaeth o bwerau codi refeniw awdurdodau lleol eu hunain. Yn dilyn trafodaethau gyda chynrychiolwyr awdurdodau lleol ar y pwysau parhaus ac eithriadol ar eu cyllidebau o ganlyniad i'r pandemig y flwyddyn ariannol hon, gallaf gadarnhau y byddwn yn darparu, yn ogystal â'r cyllid a ddarparwyd eisoes, £6.4m arall tuag at gost y dyfarniad cyflog mewn ysgolion a'r chweched dosbarth ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Wrth gyhoeddi'r dyfarniad cyflog hwn i athrawon, rwy’n cydnabod bod trafodaethau rhwng colegau Addysg Bellach ac undebau yn parhau. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad hirsefydlog i gadw cydraddoldeb rhwng cyflogau athrawon ysgol a darlithwyr Addysg Bellach. Felly, yn ogystal â'r cyllid a ddarparwyd eisoes i'r sector Addysg Bellach, byddwn hefyd yn darparu £1.5m arall tuag at gost y codiad cyflog mewn Sefydliadau Addysg Bellach yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos manteision y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi ennill cyfrifoldeb dros y pwerau hyn pan gyfunir hynny â dull cadarnhaol o weithio ar y cyd â'r holl randdeiliaid. Wrth bennu cyflogau athrawon am y trydydd tro, rydym wedi parhau i ymwahanu oddi wrth y cynigion yn Lloegr drwy ddyfarnu cyflog uwch i athrawon yng Nghymru a chyflwyno rhai newidiadau allweddol y mae'r proffesiwn yn gofyn amdanynt. Wrth symud ymlaen, bydd y gwaith ymchwil ac adolygu tymor hwy sydd ar y gweill ynghylch cyflog ac amodau athrawon yng Nghymru hefyd yn helpu i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn atyniadol i raddedigion a rhai sy'n newid gyrfa.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.