Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Yn ein Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd ar 15 Mehefin 2021, rydym yn amlinellu ein bwriad i ddarparu gofal iechyd cynaliadwy, effeithiol o ansawdd uchel i bobl Cymru. Un o’n prif ymrwymiadau er mwyn cyflawni hyn yw cyflwyno cod ymarfer statudol ar gyflenwi gwasanaethau awtistiaeth ar draws Cymru. Heddiw, dim ond ychydig fisoedd ers dechrau tymor y Senedd newydd, mae’n bleser gen i ddweud ein bod eisoes ar y ffordd i gyflawni’r ymrwymiad hwn wrth i’r Cod Ymarfer statudol terfynol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth gael ei gyhoeddi.
Mae’r Cod yn rhoi eglurder i fyrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau GIG, awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Deddf GIG (Cymru) 2006 ac ar y cyfrifoldebau sydd arnynt a'r gwasanaethau y mae’n ofynnol iddynt eu darparu er mwyn cefnogi pobl awtistig yn eu bywydau bob dydd. Daw’r Cod i rym ar 1 Medi 2021. Ni fyddem wedi gallu cyrraedd y pwynt hwn heb gymorth ein rhanddeiliaid, yn bwysicaf, pobl awtistig a’u rhieni a’u gofalwyr, gyda sefydliadau trydydd sector, ymarferwyr a gwasanaethau yn cynnig cefnogaeth. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu cymorth i gyrraedd fan hyn.
Er bod y Cod bellach wedi’i gyhoeddi, ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau. Rwyf am sicrhau ei fod yn cael ei roi ar waith a bod cyfraniadau ein rhanddeiliaid yn gwneud gwahaniaeth i’r gwasanaethau maent yn eu defnyddio. Rydym hefyd wedi cyhoeddi cynllun cyflawni clir ochr yn ochr â’r Cod sy’n amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer blwyddyn gyntaf y Senedd hon. Mae’r blaenoriaethau yn y cynllun hwn yn cynnwys meysydd fel adfer gwasanaethau yn dilyn pandemig COVID-19, cynnwys y Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau, a chefnogaeth i bobl awtistig o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig. Bydd gweithredu cam cyntaf y blaenoriaethau hyn yn effeithiol yn dibynnu ar gydweithio a dysgu o’r adborth a ddaw i law gan bobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Rydym eisoes yn gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Cod, ac mae hyn yn cynnwys grant bach (£4,000) i helpu i ddatblygu seilwaith o grwpiau rhanddeiliaid a fframwaith monitro ar gyfer awtistiaeth, a bydd hyn yn llywio gwaith hyrwyddwyr awtistiaeth rhanbarthol newydd, sef un o ofynion y Cod.
Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o wasanaethau niwroddatblygiadol ar gyfer pob oedran, a dechreuwyd ar y gwaith hwn ym mis Chwefror eleni. Bydd yr adolygiad yn defnyddio dull system gyfan er mwyn deall y sefyllfa bresennol ar draws saith rhanbarth Cymru, gan gynnwys edrych ar y galw am wasanaethau niwroddatblygiadol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion, yn ogystal â’u capasiti a sut y cânt eu cynllunio. Disgwylir i’r adolygiad gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2022, a bydd yr adroddiad terfynol yn cynnwys opsiynau ar gyfer gwella’r gwasanaeth yn y dyfodol i greu gwasanaethau cynaliadwy gan gynnwys anghenion ein gweithlu. Bydd canlyniadau’r adolygiad hwn hefyd yn llywio ail gam cynllun cyflawni 2022-23.
Gwn mai dim ond un o ystod o gyflyrau niwroddatblygiadol yw awtistiaeth, ac mae pob un o’r cyflyrau hyn yn cyflwyno heriau i blant ac oedolion a’u rhieni a’u gofalwyr. Mae ein ffocws ar wasanaethau awtistiaeth wedi rhoi sylfaen gref i ni ystyried anghenion ehangach y boblogaeth niwroamrywiaeth. Bydd y gwersi rydym wedi’u dysgu wrth ddatblygu’r Cod Ymarfer hwn yn llywio ein cynlluniau ar gyfer datblygu gwasanaethau cynaliadwy sy’n seiliedig ar anghenion ar draws Cymru.