Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn ein cyhoeddiad am becyn cymorth £200m i fusnesau ar 17 Mawrth, mae Llywodraeth Cymru heddiw yn cyhoeddi y byddwn yn darparu bron i £1.4 biliwn o gefnogaeth i fusnesau yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael gostyngiad o 100% mewn ardrethi annomestig yn 2020-21. Bydd y cynllun rhyddhad ychwanegol hwn ar gyfer manwerthu, hamdden a lletygarwch, ynghyd â’n cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach presennol, yn sicrhau na fydd dros 70,000 o fusnesau yng Nghymru yn talu ardrethi o gwbl yn 2020-21.

Yn ogystal â'r cynllun rhyddhad ychwanegol hwn ar gyfer manwerthu, hamdden a lletygarwch, bydd £850m ar gael ar gyfer cynllun grant newydd i fusnesau.

Bydd pob busnes sy'n gymwys i Ryddhad Cyfraddau Busnesau Bach ar hyn o bryd - y rhai sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000 - yn derbyn grant o £10,000. Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn derbyn grant o £25,000. Bydd y cymorth hwn yn gweithredu yn ychwanegol at ein pecyn £230 miliwn bresennol o ryddhad ardrethi.

Rydym hefyd yn sefydlu cronfa galedi i ddarparu cefnogaeth wedi'i thargedu ar gyfer rhai busnesau eraill.

Mae'r pecyn sylweddol hwn yn gwneud defnydd llawn o'r cyllid canlyniadol i Gymru sy'n deillio o Gyllideb y Canghellor ar 11 Mawrth, a’i gyhoeddiad ar 17 Mawrth.

Trwy'r pecyn hwn, byddwn yn cefnogi busnesau ledled Cymru i ymateb i effeithiau uniongyrchol y coronafeirws. Fodd bynnag, rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU unwaith eto i sefydlu cyfres o fesurau llawer mwy sylfaenol i alluogi busnesau i oroesi, ac i gefnogi gweithwyr nes bydd yr economi yn gallu ail-gychwyn masnachu yn debyg i’r arfer.