Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg
Bydd Aelodau yn ymwybodol o'r penderfyniad i gau Ysgol Gynradd Godre'r Graig. Rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi yn dilyn ymrwymiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn sesiwn Cwestiynau Busnes 16 Gorffennaf. Gwnaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot y penderfyniad i gau'r ysgol ar 11 Gorffennaf, ar ôl derbyn adroddiad gan arbenigwyr daearegol a nododd berygl o dirlithriad a fyddai'n effeithio ar ardal chwarae'r ysgol. Mae'r ysgol wedi'i chau fel mesur rhagofalus hyd nes y caiff ymchwiliadau manylach eu cynnal.
Mae'r adroddiad a luniwyd gan yr Earth Science Partnership (ESP) (dolen allanol), yr arbenigwyr a gomisiynwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, yn nodi bod yna risg lefel ganolig yn sgil tomen rwbel chwarel ger yr ysgol y mae dŵr daear yn effeithio arni. Canfu ymchwiliadau ESP, pe bai'r nant yn blocio yn sgil tywydd difrifol, y gallai lefelau a phwysau'r dŵr yn y domen yrru'r deunyddiau i lawr y tir.
Mae diogelwch ein plant yn hollbwysig, ac rwy'n falch bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi gwneud y penderfyniad rhagweithiol i gau'r ysgol tra caiff profion manylach eu cynnal. Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â'r Cyngor ac wedi cynnig cymorth Llywodraeth Cymru os bydd ei angen.
Mae'r Cyngor yn rhoi gwybodaeth reolaidd i'r rhieni am unrhyw ddatblygiadau, a bydd yn gwneud trefniadau i baratoi safle arall i'r disgyblion a'r staff erbyn mis Medi.
Mae'r adroddiad yn cyfeirio'n benodol at yr ysgol a thir yr ysgol yn unig, ac nid yw'n cyfeirio at yr ardal ehangach. Yn naturiol, bydd trigolion yr ardal yn pryderu ynghylch y goblygiadau iddyn nhw. Mae'r Cyngor wedi gofyn i ESP gynnal ymchwiliadau manwl pellach ac i lunio modelau er mwyn asesu a allai'r broblem effeithio ar yr ardal o amgylch yr ysgol. Mae wedi cysylltu â thrigolion Godre'r Graig i roi gwybod iddynt am y sefyllfa, a bydd yn rhoi mwy o wybodaeth iddynt unwaith y bydd ar gael. Mae cyfeiriad e-bost penodol wedi'i gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol fel y gall trigolion godi unrhyw bryderon: godrergraig@npt.gov.uk.
Byddaf yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn yr ysgol.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.