Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 16 Mehefin, yn fuan ar ôl cymryd cyfrifoldeb am y portffolio llywodraeth leol, ysgrifennais at Aelodau yn amlinellu fy null o ymdrin â’r penderfyniadau ar gyfer rhaglen adolygiadau o drefniadau etholiadol 2017 ledled Cymru. Ystyriais hyn yn flaenoriaeth ac ymrwymais i wneud penderfyniadau ar gyfer pob un o’r adolygiadau cyn gynted â phosibl, er mwyn galluogi llywodraeth leol i gael digon o amser i wneud unrhyw newidiadau gofynnol, cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022.

Rwyf wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynnydd sy’n cael ei wneud drwy gyfres o 11 o ddatganiadau ysgrifenedig. Mae’r holl benderfyniadau, a’r Gorchmynion a oedd yn ofynnol i roi’r penderfyniadau hynny ar waith, bellach wedi cael eu gwneud. Cyfrifoldeb llywodraeth leol yn awr yw gwneud y trefniadau lleol priodol.

Mae’r broses adolygu wedi’i chwblhau erbyn hyn. Fel gydag unrhyw broses, mae rhai sy’n cytuno gyda fy mhenderfyniadau ac eraill sy’n anghytuno. Mae hyn yn anochel wrth gydbwyso’r ystod eang o wybodaeth a safbwyntiau a dderbynnir ar gyfer pob adolygiad.

Rwyf wedi bod yn glir ynghylch fy mwriad i edrych ar y trefniadau presennol ar gyfer adolygiadau, gwrando ar adborth gan eraill a nodi cyfleoedd ar gyfer gwella. Rwy’n ymwybodol o nifer o feysydd y gellid eu harchwilio fel rhan o drafodaeth ehangach am drefniadau yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys amseriad yr adolygiadau ac unrhyw newidiadau o ganlyniad, ac agweddau ar y broses adolygu.

Ym mis Mehefin 2016, penderfynwyd y byddai’r Comisiwn yn cynnal adolygiadau o drefniadau etholiadol ar gyfer pob sir a bwrdeistref sirol yng Nghymru cyn etholiadau llywodraeth leol 2022. Ni ellid bod wedi rhagweld effaith COVID-19 ar y rhaglen hon o adolygiadau ar y pryd. Mewn gwirionedd, o ganlyniad i’r camau a oedd yn angenrheidiol i ymateb i heriau’r pandemig, bu’n rhaid inni ystyried y set lawn o adolygiadau o fewn cyfnod byr o amser ac yn nes at etholiadau’r flwyddyn nesaf nag y byddem wedi’i wneud fel arall o bosibl.

Er nad wyf yn rhagweld sefyllfa debyg yn codi yn y dyfodol, mae’r profiad wedi amlygu’r angen i adolygu’r trefniadau etholiadol yn rheolaidd eto ar gyfer pob sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru, a hynny unwaith bob deng mlynedd. Wrth ailsefydlu’r trefniadau hyn, rwy’n bwriadu trafod gyda’r Comisiwn ac awdurdodau lleol ym mha drefn y dylid cynnal yr adolygiadau hyn yn ystod y rhaglen ddeng mlynedd nesaf. Bydd hyn yn ystyried amseriad unrhyw adolygiadau cymunedau arfaethedig.

Awgrymwyd y dylid cael cyfnod o amser cyn etholiad, pan na ellir newid trefniadau etholiadol. Mae deddfwriaeth bresennol eisoes yn atal adroddiadau adolygiad etholiadol rhag cael eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod naw mis cyn etholiad cyngor cyffredin. Fodd bynnag, nid oes darpariaeth gyfatebol ynghylch Gweinidogion yn gwneud penderfyniadau yn ystod yr un cyfnod pan fo adroddiad eisoes wedi cael ei dderbyn. Er mai’r confensiwn yw na ddylai unrhyw newidiadau ddigwydd o fewn chwe mis i etholiad, hoffwn archwilio hyn ymhellach i weld a allwn gytuno ar gyfnod priodol o amser pryd na ellir gwneud newidiadau cyn etholiad.

O ran y broses adolygu ei hun, mae meini prawf sefydledig y mae’n ofynnol i’r Comisiwn eu hystyried wrth gynnal adolygiadau. Mae’r rhain yn cynnwys, cyn belled ag sy’n bosibl, sicrhau cysondeb yn nhermau nifer yr etholwyr i aelodau etholedig ym mhob ward etholiadol yn y sir neu’r fwrdeistref siriol, sefydlu a chynnal ffiniau sydd yn hawdd eu hadnabod ac osgoi torri’r cwlwm lleol wrth argymell ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

Mae sawl agwedd ar y dull y mae pobl wedi tynnu fy sylw atynt dros y misoedd diwethaf yr hoffwn eu harchwilio ymhellach, ac mae’r rhain yn cynnwys y materion canlynol.

Y gymhareb etholwr i aelod – mae’n ofynnol i’r Comisiwn sicrhau bod y gymhareb o etholwyr i aelodau etholedig ‘mor debyg ag sy’n bosibl’ ar draws yr holl wardiau etholiadol yn y sir neu’r fwrdeistref sirol. Fodd bynnag, mae gan gymunedau nodweddion gwahanol, mae rhai wedi’u lleoli mewn ardaloedd difreintiedig, tra mae eraill yn fwy cyfoethog, mae rhai yn wledig tra mae eraill yn drefol, ac mae llawer o wahaniaethau eraill megis cysylltiadau trafnidiaeth a chlymau cymunedol hanesyddol. Hoffwn archwilio a ddylid gwneud y dull presennol, sy’n seiliedig yn bennaf ar un gymhareb, yn fwy hyblyg ac ymatebol i ystod ehangach o nodweddion cymunedol.

Hoffwn hefyd ystyried a ddylem fynd i’r afael â newidiadau tymhorol yn y boblogaeth fel rhan o’r adolygiadau. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd lle mae’r boblogaeth yn tyfu yn ystod y tymor, er enghraifft mewn trefi a dinasoedd prifysgol; ac ardaloedd busnes, lle mae nifer bach o ddinasyddion ond lle mae cynrychiolwyr etholedig yn allweddol wrth ddatblygu perthnasoedd â’r busnesau hynny er budd eu cymunedau; ac wrth gwrs ardaloedd yr effeithir arnynt gan lefelau uchel o dwristiaeth.

Mae rhai pryderon wedi cael eu codi hefyd pan gaiff argymhellion newydd eu cynnwys yn Adroddiadau Argymhellion Terfynol y Comisiwn na chafodd eu cynnwys yn adroddiad drafft y Comisiwn. Hoffwn ystyried a oes ffordd o fynd i’r afael â’r pryder penodol hwn heb greu rhagor o broblemau.

Maes arall a arweiniodd at anawsterau ac oedi ar ddiwedd y broses oedd enwi wardiau etholiadol, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Nid yw’n syndod bod unigolion yn angerddol am yr enwau hyn. Mae tensiwn yn aml rhwng yr enw y mae unigolion yn uniaethu ag ef a’r cynigon a gyflwynir, naill gan y Comisiwn neu Gomisiynydd y Gymraeg. Nid wyf yn argyhoeddedig y rhoddir sylw digonol i’r mater hwn yn ddigon cynnar yn y broses i sicrhau bod y materion yn cael eu harchwilio’n llawn. Bydd yn bwysig nodi pa gamau eraill y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater hwn cyn i’r rhaglen adolygu nesaf ddechrau.

Rwy’n croesawu safbwyntiau Aelodau ar sut y gellid gwella trefniadau yn y dyfodol. Byddaf hefyd yn ceisio safbwyntiau llywodraeth leol, y Comisiwn, a rhanddeiliaid eraill.