Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol
Yn 2013, aeth Llywodraeth y DU ati i ddiwygio'n sylweddol bensiynau holl weithwyr sector cyhoeddus y DU. Y nod oedd gwneud cynlluniau o'r fath yn llai costus i'r pwrs cyhoeddus, oedd yn golygu cynyddu’r costau a lleihau'r buddion i'r gweithwyr eu hunain. Ar gyfer pob cynllun pensiwn, codwyd yr oedran ymddeol a phenderfynwyd cyfrifo pensiynau ar sail enillion cyfartalog dros gyfnod gyrfa yn hytrach nag ar sail cyflog terfynol. Roedd Deddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 a luniwyd ar gyfer y DU gyfan yn ei gwneud yn ofynnol creu cynlluniau newydd ar y telerau hyn erbyn 1 Ebrill 2015.
Fel rhan o'r diwygiadau, cytunodd Llywodraeth y DU hefyd gyda'r TUC y byddai'r gweithwyr sector cyhoeddus sydd agosaf at oedran ymddeol yn cael parhau yn eu cynlluniau pensiwn cyfredol, drwy drefniant diogelu ‘trosiannol’ arbennig. Byddai gweithwyr o'r fath yn dal i allu ymddeol pan oeddent wedi bwriadu gwneud hynny felly, a chael y pensiwn roeddent wedi'i ddisgwyl.
Yn gyffredinol nid yw pensiynau yn fater datganoledig; mae gennym swyddogaethau gweithredol sy'n ymwneud â phensiynau i ddiffoddwyr tân, ond nid ar gyfer unrhyw grŵp arall o gyflogeion. Roeddem yn cytuno â sicrhau'r trefniant diogelu i ddiffoddwyr tân hŷn. Un o'r prif resymau oedd y byddai llawer yn wynebu cynnydd sydyn yn eu hoedran pensiwn, fel arall, o 50 i 60. Byddai gosod gofyniad o'r fath yn ddirybudd wedi bod yn llym a byddai wedi drysu'r cynlluniau y byddai llawer o ddiffoddwyr tân eisoes wedi'u gwneud i ymddeol. Byddai wedi golygu hefyd bod yn rhaid iddynt fodloni safon ffitrwydd hynod uchel y Gwasanaeth Tân tan eu pumdegau hwyr, neu golli eu swydd. Mae cynllun pensiwn 2015 yn sicrhau diogelwch trosiannol felly, i bob diffoddwr tân a oedd yn gweithio ac yn 45 oed o leiaf ar 1 Ebrill 2012. Mae'r cynlluniau ar gyfer diffoddwyr tân yn Lloegr a'r Alban yn cynnwys yr union ddarpariaethau hyn.
Serch hynny, yn 2015 cyflwynodd Undeb y Brigadau Tân her gyfreithiol mewn perthynas â'r trefniadau hyn yn ein herbyn ni, Llywodraeth yr Alban a'r DU a'r Awdurdodau Tân ac Achub sy'n cyflogi'r gweithwyr perthnasol, ac ar ran grŵp sy'n cynrychioli ei aelodau. Roedd Undeb y Brigadau Tân yn honni bod trefniadau diogelu ar sail oedran yn gyfystyr â gwahaniaethu anghyfreithlon. Roeddem ninnau o'r farn bod gwahaniaethu o'r fath yn ffordd resymol o warchod disgwyliadau cyfreithlon diffoddwyr tân hŷn.
Roeddem yn llwyddiannus yng ngwrandawiad y Tribiwnlys Cyflogaeth ym mis Ionawr 2017. Fodd bynnag, gwrthdrowyd y penderfyniad yn rhannol gan Dribiwnlys Apelau Cyflogaeth yn 2018, ac fe'i gwrthdrowyd yn llwyr gan y Llys Apêl ychydig cyn y Nadolig. Haerai'r Llys nad oedd diogelu pensiynau diffoddwyr tân hŷn yn nod cyfreithlon, ar y sail mai nhw oedd leiaf tebygol o fod ar eu colled yn ariannol yn sgil y diwygiadau. Fis diwethaf, gwrthododd y Goruchaf Lys ganiatâd i apelio yn erbyn y dyfarniad hwnnw.
Mae hyn yn golygu nad yw’r trefniadau diogelu ar sail oedran yn gyfreithlon. Er y byddwn, wrth gwrs, yn parchu hynny, rydym yn siomedig â'r canlyniad cyffredinol. Ein hunig nod oedd caniatáu i ddiffoddwyr tân hŷn ymddeol fel yr oeddent wedi'i fwriadu. Yn wir, dadleuodd Undeb y Brigadau Tân yn gryf dros ehangu’r trefniadau diogelu ar sail oedran pan oeddem yn datblygu'r cynllun yn 2014-15.
Mae'r canlyniad hefyd yn golygu bod gan ddiffoddwyr tân iau, sydd heb drefniadau diogelu, yr hawl i rwymedi. Tribiwnlys Cyflogaeth fydd yn penderfynu ar hynny maes o law, ar sail sylwadau gennym ni, y Swyddfa Gartref ac Undeb y Brigadau Tân. Fodd bynnag, hoffwn roi sicrwydd i ddiffoddwyr tân hŷn na fyddwn yn cefnogi cael gwared ar y trefniadau diogelu sydd ganddynt. Mae llawer eisoes wedi ymddeol ac wedi hawlio eu pensiynau yn gwbl ddidwyll, ac nid yw'n synhwyrol nac yn deg newid y telerau iddyn nhw. Ni fyddai gwneud hynny o fudd go iawn i'w cydweithwyr iau chwaith.
Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi cadarnhau, gan fod ‘diogelwch trosiannol’ wedi’i gynnig i aelodau holl brif gynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus, fod Llywodraeth y DU o’r farn y bydd angen i’r gwahaniaeth o ran yr ymdriniaeth gael ei unioni ar draws yr holl gynlluniau hynny. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am holl gynlluniau pensiwn cyflogeion yng Nghymru, heblaw rhai’r diffoddwyr tân, ond caiff cyfraniadau’r cyflogwr i bensiynau staff y GIG, llywodraeth leol, athrawon a gweision sifil perthnasol eu talu o gyllidebau datganoledig. Os bydd costau’n codi yn sgil y ffaith fod Llywodraeth y DU yn cymhwyso’r dyfarniad hwn yn ehangach, er enghraifft drwy gynyddu cyfraniadau’r cyflogwr, rydym yn disgwyl iddi, yn unol â’r Datganiad Polisi Cyllid, ysgwyddo’r cyfrifoldeb am hynny ac ariannu’r costau cysylltiedig i’r cyrff cyhoeddus datganoledig yn llawn.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.