Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 23 Mawrth 2022, cyflwynodd yr Uchel Lys yng Nghaerdydd ei ddyfarniad ar yr her a gyflwynwyd gan NFU Cymru i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

Gwrthododd y Llys y dadleuon a gyflwynwyd gan NFU Cymru a gwrthododd yr honiad. Mae'r dyfarniad llawn ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu penderfyniad y Llys ac mae'n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda’r diwydiant, partneriaid a rhanddeiliaid i fynd i'r afael â ffynonellau llygredd sy’n deillio o waith amaethyddol a gwaith arall.  Cymryd camau i ddiogelu ein dyfrffyrdd a gwella ansawdd yr aer gan geisio atal llygredd yw'r peth iawn i'w wneud er lles yr amgylchedd, bioamrywiaeth, iechyd y cyhoedd ac i ddiogelu enw da'r rhai sydd eisoes yn arddel safon amgylcheddol uchel wrth ffermio. 

Mae'r dyfarniad hwn yn caniatáu i'r gwaith pwysig hwn barhau. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r gymuned ffermio i wella ansawdd dŵr ac ansawdd aer, gan ddefnyddio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a chan dargedu’r gweithgareddau hynny y gwyddys eu bod yn achosi llygredd.

Mae cyfle o hyd yn y Rheoliadau i gyflwyno mesurau amgen er mwyn cyflawni ein nodau cyffredin ac rwy'n parhau i groesawu cyflwyniadau ynghylch unrhyw fesurau o'r fath i'w hystyried. 

Mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â llygredd ein dyfrffyrdd ac i barhau i gefnogi ein diwydiant ffermio. Cyn y Pasg byddaf yn amlinellu fy nghynlluniau ar gyfer cefnogi’r sector amaethyddol, a fydd yn cynnwys rhagor o gyllid i helpu ffermwyr i roi’r rheoliadau hyn ar waith.