Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi’r canllawiau newydd ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth o’r Gymraeg.
Rwyf am i bob dysgwr oed ysgol gael y cyfle i ddod yn ddinasyddion dwyieithog – ac mae dysgu Cymraeg yn yr ysgol yn darparu'r ffordd orau o gyflawni hynny. Dyma pam rwyf am i fwy o ysgolion, fel rhan o'n hymrwymiadau Cymraeg 2050 ac wrth gyflwyno Cwricwlwm i Gymru, symud ar hyd y continwwm iaith trwy gynyddu faint o’r Gymraeg sy'n cael ei gynnig yn eu hysgolion.
Bydd cyflymder dysgwyr yn caffael yr iaith yn dibynnu ar yr amser a rhoddir iddynt ymwneud â'r Gymraeg yn yr ysgol, a dyna pam mae'r canllaw hwn yn cael ei gyhoeddi. Ei nod yw i helpu'r rhai sy'n arwain ar gynllunio ysgolion a darparu'r cwricwlwm i ddeall beth yw eu categori ysgol, yn seiliedig ar faint o'r ddarpariaeth addysg sydd ar gynnig trwy’r Gymraeg. Po fwyaf o oriau cyswllt, y tu mewn yn ogystal â'r tu allan i'r ystafell ddosbarth y mae ein dysgwyr yn eu cael yn Gymraeg, y mwyaf tebygol y byddant yn gadael yr ysgol yn siaradwyr y Gymraeg. Mae Cymraeg 2050 yn nodi mai trwy addysg drochi cyfrwng Cymraeg, lle mae'r mwyafrif o'r dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yw'r prif ddull o greu siaradwyr Cymraeg. Mae'r polisi hwn yn cydnabod ac yn diogelu'r model addysg drochi sy'n bodoli yma yng Nghymru. Mae hefyd yn mynd i'r afael â'r gwahanol ffyrdd o gyflwyno trochi, yn dibynnu ar natur ddaearyddol, ddemograffig ac ieithyddol yr ardal lle mae'r ysgol yn bodoli.
Mae'r meysydd newid allweddol yn cynnwys lleihau nifer y categorïau sy'n diffinio'r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgol i 3 yn y sector cynradd a 3 yn y sector uwchradd, gyda phob un yn dilyn yr un patrwm - cyfrwng Saesneg (Categori 1); Dwy iaith (Categori 2) a Chymraeg (Categori 3 a 3P). Bellach bydd canran y ddarpariaeth Gymraeg hefyd yn cael ei chyfrifo ar sail yr amser ysgol a ddyrannir i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg sy'n cynnwys amser cwricwlaidd yn ogystal ag amser allgyrsiol, gyda’r cyfran uchaf yn 3P, gyda 100% o’r dysgwyr yn ymgymryd a 90% neu fwy o’u gweithgareddau ysgol, yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol, trwy’r Gymraeg.
Un o'r egwyddorion craidd wrth gyflwyno'r trefniadau newydd yw na ddylai ysgolion gynnig llai o ddarpariaeth Gymraeg, yn gwricwlaidd ac hefyd o ran eu gweithgaredd allgyrsiol, yn y dyfodol nag a wnaed yn y gorffennol. Rwyf am weld pob ysgol ac awdurdod lleol yn symud ar hyd y continwwm iaith gan roi gwell cyfle i ddysgwyr adael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg. Mae athrawon a phartneriaid eraill yn gweithio ar fframwaith Cymraeg ar hyn o bryd. Gyda deunyddiau ategol a dysgu proffesiynol, bydd y fframwaith hwn yn cefnogi dysgu ac addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae hyn yn bwysig i rieni a gofalwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am y math o leoliad ysgol yr hoffent i'w plentyn ei fynychu. Mae hwn yn bolisi cenedlaethol sy'n darparu atebion lleol. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ac rwyf am sicrhau bod ein dysgwyr nid yn unig yn gallu siarad yr iaith, ond eu bod yn hapus i'w defnyddio ym mhob cyd-destun. Rwy'n hyderus y bydd y canllaw hwn yn ein helpu i osod sylfeini cryf a pharatoi'r ffordd i gyflawni hyn.
Gellir dod o hyd i’r canllaw ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar: