GAN Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi canlyniad ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynnig i gael gwared ar yr atebolrwydd am dalu’r dreth gyngor, ar y cyd ac yn unigol, i unigolion cymwys sy’n gadael gofal. Roedd y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn croesawu'r newid hwn ac roedd cefnogaeth lawn i'n cynnig.
Ar ôl ystyried yr ymatebion, mae'n bleser gennyf hefyd gyhoeddi fy mod wedi gwneud Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Atebolrwydd ar y Cyd ac Unigol Personau sy’n Ymadael â Gofal) (Cymru) 2022, a fydd yn sicrhau bod unigolion cymwys sy’n gadael gofal ac sy'n byw mewn cartrefi gyda phobl eraill yn cael eu heithrio rhag talu'r dreth gyngor o 1 Ebrill 2022.
Fe wnaethom ddeddfu yn 2019 i sicrhau bod y rhan fwyaf o bobl ifanc sy'n gadael gofal yn cael eu heithrio rhag y dreth gyngor. Mae'r cam diweddaraf hwn yn sicrhau na fydd modd i unigolion sy’n gadael gofal, a allai yn y gorffennol fod wedi’u dal yn atebol ar y cyd neu'n unigol am dalu’r dreth gyngor, orfod bod yn atebol am hynny bellach.
Mae hwn yn gyfle i wneud ein system treth gyngor yn decach, gan ein bod wedi ymrwymo i wneud hynny yn ein Rhaglen Lywodraethu 2021-2026.
Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu at yr ymgynghoriad.
Mae'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yn:
Cael gwared ar atebolrwydd unigolion cymwys sy’n gadael gofal am dalu’r dreth gyngor | LLYW.CYMRU