Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyhoeddwyd Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 11 Mehefin.
Ymrwymodd y cynllun i ‘Sefydlu Rhaglen Drawsnewid genedlaethol i annog gweithredu’r cynllun hwn, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda chefnogaeth Bwrdd Trawsnewid o gynrychiolwyr traws-sector’.
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r canlynol fel aelodau o’r Bwrdd Trawsnewid. Byddant yn cefnogi’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, Andrew Goodall, wrth iddo arwain y Rhaglen Drawsnewid.
• Alex Howells – Prif Weithredwraig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
• Clare Budden – Prif Weithredwraig, Grŵp Tai Pennaf
• Dave Street – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
• Gareth Roberts – Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
• Huw David – Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
• Keith Moultrie – Cyfarwyddwr, Institute of Public Care, Oxford Brookes University
• Jan Williams – Cadeirydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
• Len Richards – Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro
• Phil Roberts – Prif Weithredwr, Cyngor Abertawe
• Phil Robson – Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Aneurin Bevan
• Ruth Marks – Prif Weithredwraig, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
• Siôn James – Arweinydd Clwstwr, Clwstwr Gofal Gogledd Ceredigion
• Steve Thomas – Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
• Sue Evans – Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru
• Vanessa Young – Cyfarwyddwraig, Conffederasiwn GIG Cymru