Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Fis Mehefin diwethaf, lansiais y rhaglen Adferiad - pecyn o wasanaethau gwerth £5m ar gyfer pobl sy’n gwella o effeithiau hirdymor COVID-19 yng Nghymru, gan gynnwys COVID hir. Yn rhan o’r cyhoeddiad hwnnw, dywedais y buasem yn adolygu cynnydd y rhaglen bob chwe mis.
Yn fy Natganiad Llafar ar 8 Chwefror, rhoddais ddiweddariad i Aelodau’r Senedd ar ganlyniadau’r adolygiad cyntaf a’r gwaith a wnaethpwyd o ran datblygu gwasanaethau COVID hir. Cadarnheais hefyd y buaswn yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer y chwe mis nesaf er mwyn sicrhau bod y GIG yn gallu parhau i ddatblygu arbenigedd y gweithlu, addasu gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein poblogaeth, a sicrhau bod y gwasanaethau hynny wedi’u hymgorffori yn rhan o’n cynlluniau ehangach o ran adfer wedi COVID-19.
Wrth inni barhau i ddelio â phwysau yr ymateb i’r pandemig, mae’n hanfodol bod y gwaith o ddatblygu gwasanaethau cymunedol yn cael ei gynnal er mwyn cefnogi’r rhai hynny sy’n gwella o effeithiau COVID-19. Rwyf felly yn cyhoeddi heddiw bod £5miliwn ychwanegol o gyllid y rhaglen Adferiad am gael ei ddyrannu i Fyrddau Iechyd yn ystod 2022/23 er mwyn cefnogi parhad eu gwasanaethau COVID hir.
Mae’r rhaglen Adferiad wedi ehangu a gwella gwasanaethau sylfaenol a gwasanaethau yn y gymuned ym mhob bwrdd iechyd. Rydym hefyd wedi datblygu llwybrau clir i wella’r cyfleoedd i bobl gael gafael ar ofal sy’n fwy arbenigol a chyflymu’r broses o gyfeirio at y gofal hynny. Ymddengys bod y model o wasanaethau adfer sy’n cael eu harwain gan y gymuned yn diwallu anghenion y rhai hynny sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau ac anghenion clinigwyr fel modd effeithiol o gefnogi pobl.
Y gobaith erbyn diwedd y cyfnod chwe mis nesaf ym mis Gorffennaf yw y bydd byrddau iechyd yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle i ddechrau ehangu’r model cymunedol i drin a chefnogi pobl sydd â chyflyrau hirdymor eraill sydd ag effeithiau tebyg i COVID hir, gan gynnwys cyflyrau megis Sglerosis Ymledol (MS), Enseffalomyelitis Myalgig (ME) a Syndrom Blinder Cronig. Byddai hyn o gymorth i sefydlu gwasanaethau ymyriadau hirdymor effeithiol, yn ogystal â sicrhau cysondeb wrth drin pobl sydd â gwahanol gyflyrau a diagnosisau.
Bydd y cyllid hefyd yn fodd o gefnogi parhad yr ap adfer hunanreoli COVID-19 a’r Canllawiau Cymru Gyfan ar reoli COVID hir, sydd wedi bod yn adnoddau digidol effeithiol i gefnogi pobl i hunanreoli eu symptomau. Maent hefyd wedi bod o gymorth i roi’r cyngor a’r dysgu diweddaraf i weithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn cefnogi’r broses o roi diagnosis o COVID hir a’i drin.
Rydym yn parhau i ddysgu rhagor am effeithiau hirdymor COVID-19 a sut y mae’n gallu effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Rydym yn parhau i werthuso ein dull o drin pobl, eu cefnogi a gofalu amdanynt drwy ein model gwasanaeth unigryw fel y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon o sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl sy’n byw â COVID hir. Rydym hefyd yn parhau i gymryd rhan mewn nifer o astudiaethau ymchwil er mwyn deall y ffordd orau i gefnogi adferiad pobl.