Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Nod Llywodraeth Cymru yw bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn gallu cyrraedd ei lawn botensial.
I gefnogi hyn, cyhoeddais Siarad gyda fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu ym mis Tachwedd 2020.
Un o amcanion allweddol y Cynllun Cyflawni yw gwella’r broses o nodi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu mewn plant hyd at 4 mlwydd ac 11 mis oed.
Drwy nodi plant sydd yn wynebu’r risg o anawsterau iaith yn gynnar yn eu bywydau, mae’n ei gwneud yn bosibl iddynt gael y cymorth sydd ei angen arnynt, gan atal unrhyw effeithiau hirdymor posibl.
Rwyf wedi ymrwymo £1.5 miliwn dros dair blynedd i ddatblygu adnodd nodi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu i’w ddefnyddio gyda phlant ifanc. Mae’r cynllun datblygu ar gyfer yr adnodd wedi ei lywio gan ymchwil a oedd yn cynnwys Uned Ymchwil Therapi Iaith a Lleferydd Bryste, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Bryste.
Bydd yr adnodd newydd yn un pwrpasol, ac ar gael mewn fformat dwyieithog i weithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar drwy Gymru gyfan. Bydd hyn yn cynnwys asesu cerrig milltir cyfathrebu, ffactorau risg a ffactorau amgylcheddol ar amryw bwyntiau oedran yn unol â’r Rhaglen Plant Iach Cymru.
Bydd yr adnodd newydd yn golygu y gellir nodi’r plant sydd mewn mwyaf o angen yn gynnar fel eu bod yn cael cynnig ymyrraeth gan y person iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn.
Yn ogystal â hyn, rwy’n buddsoddi hyd at £1.15 miliwn o gyllid ychwanegol ym maes Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu dros ddwy flynedd (2022-24) ar gyfer Byrddau Iechyd a Chanolfannau Arbenigol Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu. Bydd hyn o gymorth i gryfhau gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu, a lleihau rhestrau aros.
Mae’r dyfarniad diweddaraf hwn yn dilyn sawl hwb ariannol cynharach sydd wedi galluogi gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu i fynd i’r afael â’r effeithiau niweidiol gafodd y pandemig ar ddatblygiad iaith cynnar plant.
Mae cyllid ychwanegol yn y gorffennol wedi talu am offer TG i staff, hyfforddiant, ac adnoddau ychwanegol sydd wedi gwneud gwir wahaniaeth i ddarparu gwasanaethau ar lawr gwlad.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf gan aelodau. Pe dymunai aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.