Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dros y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG yng Nghymru wedi cydweithio i greu seilwaith profi cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer COVID-19. Mae’r wyddoniaeth yn dweud wrthym y bydd y feirws yn lledaenu’n gyflymach dros y misoedd oer, gwlyb, felly gallwn ddisgwyl gweld cynnydd mewn achosion positif yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Bydd ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn allweddol i leihau effaith unrhyw gynnydd mewn achosion drwy ein galluogi i adnabod yn gyflym pwy sydd â COVID-19; nodi mannau problemus newydd o ran yr haint, ac ynysu cymaint o bobl sydd wedi dod i gysylltiad â’r haint â phosibl.
Yn arbennig, rwy’n cydnabod bod cyflymder yn hanfodol i atal y feirws yn effeithiol. Cyngor SAGE yw, fel rhan o’r broses olrhain cysylltiadau, y dylai canlyniadau profion fod yn hysbys o fewn 24 awr i leihau unrhyw drosglwyddiad pellach.
Dyna pam yr wyf yn buddsoddi bron i £32m o gyllid i wella cyflymder prosesu’r profion, a sicrhau y bydd cymaint o ganlyniadau â phosibl ar gael o fewn y 24 awr gyntaf.
Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn talu am staff ac offer ychwanegol ar gyfer y labordai rhanbarthol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, Ysbyty Treforys, Abertawe ac Ysbyty Glan Clwyd, y Rhyl, fel y gallant weithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Yn ogystal, byddwn yn creu chwe labordy mewn ysbytai acíwt ar draws Cymru, a fydd yn gallu profi yn gyflym (<4 awr) am COVID-19. Bydd y labordai hyn wedi’u lleoli yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli, Ysbyty Treforys, Abertawe, Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful, Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty’r Grange, Cwmbrân.
Bydd yr offer profi hefyd yn galluogi staff i brofi am gyflyrau anadlol eraill i gefnogi gofal cleifion a llif cleifion drwy ofal eilaidd.
Bydd y gallu newydd yn y labordai hefyd yn rhoi mynediad at brofion moleciwlaidd cyflym am norofeirws a C. difficile, yn ogystal â’r gallu i feithrin samplau gwaed yn ein hysbytai acíwt a rhyddhau amser staff mewn labordai rhanbarthol a lleol i gefnogi’r profion am COVID-19.
Bydd y buddsoddiad hwn yn gwella ein gwytnwch ac yn helpu i sicrhau bod ein systemau profi ac olrhain cysylltiadau yn ddigon cadarn i ymdrin â chyfnod nesaf y pandemig. Bydd gennym fwy o allu mewn labordai yng Nghymru ochr yn ochr â seilwaith profi’r DU i gyflawni ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu, i reoli’r coronafeirws a bod yn barod ar gyfer y gaeaf.