Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar ddau gyhoeddiad gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI).
I ddechrau, ar ôl trafod ac ystyried y dystiolaeth, mae’r JCVI wedi argymell y dylid cynnig ail ddos o’r brechlyn i bobl ifanc 16-17 mlwydd oed nad ydynt mewn grŵp ‘risg uwch’.
Edrychodd y JCVI ar risgiau a manteision allweddol cynnig ail ddos i bobl ifanc 16-17 oed. Wrth wneud eu penderfyniad, ystyriwyd bod ail ddos yn cynnig amddiffyniad hirach rhag COVID-19, ac yn lleihau’r risg o haint a salwch difrifol, derbyniadau i’r ysbyty a derbyniadau i unedau gofal dwys ymhellach. Cafodd y manteision hyn eu cydbwyso â data sy’n dangos digwyddiadau niweidiol prin iawn ar ôl brechiadau mewn pobl ifanc.
Mae’r JCVI yn argymell rhoi’r ail ddos o frechlyn 12 wythnos neu ragor ar ôl y dos cyntaf. I’r bobl ifanc sydd wedi cael haint COVID-19 ar unrhyw adeg ar ôl cael eu dos cyntaf o frechlyn, dylid rhoi’r ail ddos o frechlyn 12 wythnos neu ragor ar ôl yr haint COVID-19.
Yn ogystal, maent yn cynghori y dylai unigolion gael gwybodaeth ddigonol am risgiau a manteision posibl brechu i’w galluogi i wneud penderfyniad dilys o ran derbyn yr ail ddos ai peidio, a pha bryd, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau personol nhw. Byddwn yn sicrhau bod amryw o ffynonellau gwybodaeth ar gael i bobl ifanc wneud dewis gwybodus.
O ran y pigiadau atgyfnerthu, mae’r JCVI wedi ystyried a ddylid rhoi pigiadau atgyfnerthu i grwpiau blaenoriaeth pellach sydd o dan 50 oed ac ddim yn grŵp ‘risg uwch’. Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylid cynnig pigiad atgyfnerthu i’r rheini sy’n 40-49 oed, os oes 6 mis wedi pasio ers eu hail ddos.
Byddant yn gwneud penderfyniad ynglŷn â chynnig pigiad atgyfnerthu COVID-19 i bobl 18-39 oed yn nes ymlaen, pan ddaw rhagor o dystiolaeth i law i ddangos a yw effaith y brechlynnau’n gwanhau yn y grŵp hwn. Oherwydd y bydd y rhan fwyaf o oedolion ifanc wedi cael ail ddos y brechlyn COVID-19 ar ddiwedd ar haf neu ar ddechrau’r hydref, bydd ganddynt lefel uchel o amddiffyniad o hyd.
Hoffwn ddiolch i’r JCVI am eu hystyriaethau a’u cyngor ac am gymryd gofal i ffurfio barn gytbwys. Ein bwriad, a hynny ers dechrau’r pandemig, yw dilyn y dystiolaeth glinigol a gwyddonol ac felly rydym yn derbyn cyngor y JCVI. Byddwn yn gweithio gyda GIG Cymru i weithredu ar y cyngor hwn ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.
Yfory, byddaf yn cyhoeddi fersiwn diweddaraf ein diweddariad rhaglen frechu COVID-19.