Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, ar ôl trafod y dystiolaeth a’i hystyried, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi gwneud dau argymhelliad i ymestyn y rhaglen frechu COVID-19 ymhellach ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Yn gyntaf, yn dilyn penderfyniad diweddar yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) i gymeradwyo brechlyn COVID-19 Pfizer-BioNTech (Comirnaty®) mewn plant iau, mae'r JCVI wedi argymell y dylai plant 5 i 11 oed – plant sy’n perthyn i un o’r grwpiau “risg” neu sy'n gyswllt cartref i rywun sy’n imiwnoataliedig – gael cynnig dau ddos 10 microgram o'r brechlyn Pfizer-BioNTech. Dylid gadael bwlch o wyth wythnos rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos o’r brechlyn. Os bydd unigolyn wedi cael haint COVID-19 yn ddiweddar, dylid gadael bwlch o bedair wythnos o leiaf rhwng unrhyw ddos o frechlyn a’r haint hwnnw.

Ar hyn o bryd, ar sail cydbwyso’r manteision a’r niwed posibl, mae'r JCVI o blaid brechu’r grŵp hwn. Hyd yma, tan y daw rhagor o wybodaeth a thystiolaeth i’r amlwg, nid yw'r JCVI wedi cynghori a ddylai plant 5 i 11 oed nad ydynt mewn categori “risg” gael eu brechu.

Yn ail, mae'r JCVI wedi argymell cynnig dos atgyfnerthu COVID-19 i:

  • Bob plentyn a pherson ifanc 16 i 17 oed
  • Plant a phobl ifanc 12 i 15 oed sydd mewn grŵp risg clinigol neu sy'n gyswllt cartref i rywun sy’n imiwnoataliedig
  • Plant a phobl ifanc 12 i 17 oed sy’n ddifrifol imiwnoataliedig ac sydd wedi cael trydydd dos sylfaenol.

Ni ddylai unigolion gael cynnig y dos atgyfnerthu hyd nes y bydd tri mis o leiaf ers iddynt gwblhau eu cwrs sylfaenol.

Yn ôl yr arfer, bydd gwybodaeth briodol am fanteision a risgiau posibl brechu ar gael i blant a phobl ifanc, rhieni a gwarcheidwaid er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â’r brechiad.

Rwyf wedi derbyn y cyngor hwn. Dilyn y dystiolaeth glinigol a gwyddonol yw ein bwriad, fel yr ydym wedi ei wneud ers dechrau'r pandemig.

Bydd GIG Cymru yn nodi plant a phobl ifanc 5 i 11 oed cymwys yn y grwpiau “risg” ac yn dechrau cynnig apwyntiadau yn y flwyddyn newydd. Bydd plant o dan 18 oed sy'n gymwys i gael dos atgyfnerthu yn cael apwyntiad pan fyddant yn gymwys.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.