Jane Hutt AS, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Ar 9 Mawrth, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd. Mae’r Bil yn ymdrin ag ystod eang o feysydd o fewn cyfiawnder troseddol sydd, gan mwyaf, yn faterion a gedwir yn ôl. Serch hynny, credaf fod rhai o ddarpariaethau’r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Felly, ddydd Llun 22 Mawrth, gosodais Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn amlinellu darpariaethau’r Bil sy’n ymwneud â materion datganoledig.
Gan fod toriad y Senedd a’r cyfnod cyn-etholiadol ar fin dechrau, nid oes digon o amser i atgyfeirio’r Memorandwm at y Pwyllgor Busnes i graffu arno fel y byddai’n digwydd fel arfer. Fodd bynnag, mae’n Fil pwysig sy’n effeithio ar Gymru, ac rwy’n credu ei bod yn hanfodol cynnal proses graffu effeithiol yn ei gylch. O ganlyniad, dewisais osod y Memorandwm er gwaethaf y diffyg amser i graffu arno’n llawn. Byddwn felly’n disgwyl i femorandwm pellach a Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael eu gosod yn fuan ar ôl yr etholiad i ganiatáu proses graffu lawn a theg.
Fel Llywodraeth, rydym wedi adolygu’r Bil. Mae darpariaethau ynddo a fydd yn gwneud newidiadau synhwyrol a phwysig i’r system cyfiawnder troseddol a’i gwasanaethau, gan wella diogelwch cymunedau yng Nghymru.
Fodd bynnag, ceir darpariaethau na allwn ni fel Llywodraeth eu derbyn. Bydd y Ddyletswydd Trais Difrifol yn y Bil yn rhoi pwerau newydd i’r Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddyd at ddibenion gorfodi’r ddyletswydd trais difrifol. O ganlyniad, gallai’r Ysgrifennydd Gwladol o bosibl roi cyfarwyddyd ar faterion sydd wedi eu datganoli sy’n dod o fewn cylch gwaith ein hawdurdodau Cymreig datganoledig.
Rwyf hefyd wedi codi pryderon ynghylch y ddarpariaeth Gwersylloedd Diawdurdod. Mae dull Llywodraeth Cymru o reoli gwersylloedd diawdurdod wedi canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau a buddsoddi ar gyfer darpariaeth ddigonol o safleoedd awdurdodedig a galluogi awdurdodau lleol i fodloni gofynion llety (preswyl a chludiant) cymunedau Sipsiwn, Roma neu Deithwyr. Mae’r maes gwaith hwn yn cael blaenoriaeth unwaith yn rhagor yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol sydd ar fin ymddangos, sy’n cynnwys nod annibynnol o fynd i’r afael yn well ag anghenion llety'r cymunedau hyn. Mae’r darpariaethau arfaethedig a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn canolbwyntio ar orfodi a throseddoli. Rwy’n bryderus y gallai’r cynigion a nodir yn y Bil danseilio hawliau Sipsiwn a Theithwyr ac o bosibl droseddoli teuluoedd yn annheg. Gallai’r troseddau newydd arfaethedig achosi i Sipsiwn a Theithwyr sydd heb fynediad at safle addas neu awdurdodedig gael eu troi allan yn barhaus ac o bosibl eu herlyn.
Rydym hefyd wedi codi pryderon ynghylch darpariaethau sy’n effeithio ar yr hawl i wrthdystio’n gyfreithlon ac yn heddychlon. Bydd y Bil yn gosod amodau ar orymdeithiau cyhoeddus, cynulliadau cyhoeddus a gwrthdystiadau gan un person. Gallai’r amodau hyn ei gwneud yn anodd i leisiau pobl gael eu clywed. Er bod y drefn gyhoeddus yn fater a gedwir yn ôl, mae’r elfen sŵn yn y darpariaethau hyn yn ymwneud â materion iechyd yr amgylchedd, sydd wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â pholisi sŵn wedi ei seilio ar y ffyrdd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan gynnwys yr egwyddor o gynnwys pobl yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, a cheisio sicrhau’r amgylchedd sŵn cywir ar gyfer cyd-destun penodol. Mae hyn yn sicrhau bod barn pobl yn cael ei hystyried ynghyd â meini prawf rhifol.
Rwy’n galw ar i Lywodraeth y DU ailwerthuso’r Bil ac ystyried ein pryderon. Fodd bynnag, rhaid i Lywodraeth y DU fynd ymhellach na hynny. Yn dilyn marwolaeth drasig Sarah Everard a’r gwylnosau a gynhaliwyd er cof amdani, mae’n amlwg bod rhaid inni wneud newidiadau cymdeithasol a diwylliannol i sicrhau y gall pob menyw a merch fyw heb ofn.
Mae’r Bil yn gyfle i Lywodraeth y DU sicrhau bod ein system cyfiawnder troseddol yn un sy’n diogelu pawb yng nghymdeithas, gan gynnwys menywod a merched, ac yn galluogi’r cyhoedd i barhau i fynegi eu pryderon yn rhydd.