Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Mae Bil Teithio Llesol (Cymru) wedi’i osod heddiw. Mae’r Bil Teithio Llesol yn gam gweithredu allweddol yn y Rhaglen Lywodraethu ac mae wedi’i gynnwys yn Rhaglen Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
Diben y Bil yw ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wella cyfleusterau a llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn gyson, a pharatoi mapiau sy’n nodi’r llwybrau sydd ar gael a darpar lwybrau y gallent eu defnyddio yn y dyfodol. Bydd y Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau ffyrdd newydd (gan gynnwys cynlluniau gwella ffyrdd) yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr yn ystod y cyfnod dylunio.
Yn benodol, mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol:
- mapiau cymeradwy o lwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig
- mapiau rhwydwaith integredig cymeradwy o’r llwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell sydd eu hangen er mwyn creu rhwydwaith integredig o lwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig
- ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried y mapiau rhwydwaith integredig wrth baratoi polisïau trafnidiaeth, a gwella amrywiaeth ac ansawdd y llwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig yn barhaus
- ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol ystyried pa mor ddymunol fyddai gwella’r ddarpariaeth ar gyfer cerdded a beicio, wrth adeiladu ac wrth wella priffyrdd.
Bwriad y Bil yw ei gwneud hi’n bosibl i ragor o bobl gerdded a beicio, a’u galluogi’n gyffredinol i deithio drwy ddefnyddio dulliau heblaw moduron. Rydym am weld cerdded a beicio'n dod y ffordd fwyaf naturiol ac arferol o fynd o gwmpas. Rydym eisiau gwneud hyn fel y gall rhagor o bobl brofi'r manteision i'w hiechyd, fel y gallwn ostwng ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr, ac fel y gallwn helpu i fynd i'r afael â thlodi ac anfantais. Ar yr un pryd, rydym eisiau helpu i ddatblygu ein heconomi, a chreu cyfleoedd i'r economi dyfu mewn modd cynaliadwy.
Rydym yn ceisio defnyddio deddfwriaeth i atgyfnerthu'r syniad fod teithio llesol yn ddull ymarferol o deithio, ac yn ddewis amgen i drafnidiaeth fodurol ar gyfer teithiau byr. Rydym am weld gwell gwybodaeth yn cael ei darparu, a gwell prosesau ar gyfer cynllunio ymlaen llaw, er mwyn gallu defnyddio cyllid mewn ffordd fwy strategol ac ysgogi gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar hybu teithio llesol. Nod y ddeddfwriaeth yn y pen draw yw creu amgylchedd mwy diogel ac ymarferol na’r hyn sydd ar gael yn awr ar gyfer cerdded a beicio.