Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ei osod heddiw, 28 Ionawr 2013.

Mae’r Bil yn gweithredu’r polisi a nodir yn y Papur Gwyn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu, sy’n amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i’r heriau sylweddol y mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn eu hwynebu o ganlyniad i ddisgwyliadau cymdeithasol cynyddol a chyfnewidiol yn y gymdeithas, newid demograffig ac amgylchiadau anodd o ran adnoddau. Mae dau amcan polisi allweddol yn ganolog iddo: yn gyntaf, gwella’r canlyniadau llesiant ar gyfer y bobl hynny ym mae angen gofal a chymorth arnynt, a’r gofalwyr hynny y mae angen cymorth arnynt; ac yn ail diwygio’r gyfraith ar y gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’r Bil yn darparu un Ddeddf ar gyfer Cymru sy’n dwyn ynghyd ddyletswyddau a swyddogaethau awdurdodau lleol er mwyn gwella llesiant y bobl hynny y mae angen gofal a chymorth arnynt a’r gofalwyr hynny y mae angen cymorth arnynt. Mae’n darparu’r fframwaith statudol ar gyfer gwireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i integreiddio’r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cynorthwyo pobl o bob oed, a chynorthwyo pobl fel rhan o deuluoedd a chymunedau.

Bydd yn trawsnewid y modd y caiff y gwasanaethau cymdeithasol eu darparu, yn bennaf drwy hybu annibyniaeth pobl er mwyn rhoi mwy o lais a rheolaeth iddynt. Bydd integreiddio a symleiddio’r gyfraith ar gyfer pobl hefyd yn rhoi mwy o gysondeb ac eglurder i’r bobl hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau cymdeithasol, eu gofalwyr, staff yr awdurdodau lleol a’r cyrff sy’n bartneriaid iddynt, y llysoedd a’r farnwriaeth. Bydd y Bil yn hybu cydraddoldeb ac yn gwella ansawdd gwasanaethau a’r wybodaeth a gynigir i bobl, yn ogystal â sicrhau bod yna gymhellion priodol i lywodraeth leol a’u partneriaid sicrhau bod yna bwyslais ar y cyd ar atal ac ymyrryd yn gynnar.

Er mwyn cyflawni’r trawsnewidiad hwn mae’r Bil yn gwneud darpariaethau yn y meysydd canlynol:

Drwy ei swyddogaethau cyffredinol (rhan 2) mae’r Bil yn darparu:

  • Dyletswyddau llesiant hollgynhwysol ar bobl sy’n arfer swyddogaethau o dan y Bil i geisio hybu llesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt. 
  • Dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i hybu’r gwaith o ddatblygu modelau darparu newydd yn ardaloedd yr awdurdodau lleol drwy fentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, gwasanaethau dan arweiniad defnyddwyr a gwasanaethau trydydd sector.
  • Dyletswyddau ar awdurdodau lleol, gyda chymorth y Byrddau Iechyd Lleol, i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i helpu pobl i ddeall sut y mae’r system gofal a chymorth yn gweithio, pa wasanaethau sydd ar gael yn yr ardal, a sut i gael gafael ar y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen yn awr, ac yn y dyfodol.

Wrth asesu anghenion unigolion (Rhan 3) mae’r Bil yn darparu ar gyfer:

  • Un hawl i oedolion a phlant (a’u teuluoedd) gael asesiad ynghyd ag un ddyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal ‘asesiad gofalwr’.
  • Cyfuno gwahanol asesiadau a chreu pwerau i Weinidogion Cymru lunio rheoliadau er mwyn darparu rhagor o fanylion mewn perthynas ag asesiadau.

Wrth ddiwallu anghenion (Rhan 4) mae’r Bil yn darparu ar gyfer:

  • Dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal asesiad cymhwystra er mwyn penderfynu a yw’n ‘angen cymwys’.
  • Datblygu fframwaith cymhwystra cenedlaethol er mwyn egluro drwy Reoliadau beth yw ‘angen cymwys’.  
  • Un ddyletswydd i ddiwallu “anghenion cymwys” oedolion, a rhwymedigaeth debyg ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion cymwys plant.
  • Gofalwyr i gael eu trin yn yr un modd â’r personau hynny y mae angen gofal a chymorth arnynt.
  • Fframwaith a fydd yn caniatáu i awdurdodau lleol wneud taliadau uniongyrchol i berson (gan gynnwys gofalwyr) tuag at gost diwallu anghenion gofal a chymorth (neu gymorth yn achos gofalwyr), neu’n mynnu eu bod yn gwneud hynny.
  • Dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu cynlluniau gofal a chymorth i bobl (plant ac oedolion) sydd ag ‘anghenion cymwys’ ac i ofalwyr sydd ag anghenion ‘cymwys’, a’u hadolygu’n rheolaidd.
  • Bydd modd cludo cynlluniau gofal a chymorth ar gyfer pobl (ond nid ar gyfer gofalwyr) ar draws ffiniau awdurdodau lleol Cymru.

O ran codi ffioedd ac asesiadau ariannol (Rhan 5) mae’r Bil yn darparu ar gyfer:

  • Caniatáu i awdurdodau lleol godi ffi am ddarparu neu am drefnu gwasanaethau, os yw hynny’n briodol.
      
  • Dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal asesiadau ariannol mewn rhai amgylchiadau (a bwriedir i’r trefniadau manwl ar gyfer hyn gael eu nodi mewn rheoliadau).

Mewn perthynas â Phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya (Rhan 6) mae’r Bil yn darparu ar gyfer:

  • Cydgrynhoi a, phan fo hynny’n bosibl, egluro’r darpariaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Plant 1989 (ond heb leihau’r rhwymedigaethau a’r dyletswyddau mewn perthynas â’r grwpiau hyn o blant a phobl ifanc).
  • Dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plant sy’n “derbyn gofal” a’r rhai sy’n gadael gofal.
  • Ailddatgan mewn deddfwriaeth y dyletswyddau at y plant hyn mewn perthynas â dyletswyddau a swyddogaethau awdurdodau lleol i’w lleoli; eu lletya (gan gynnwys sicrhau bod digon o lety yn eu hardal); eu haddysg; eu hiechyd; cyswllt â’r teulu; ymweliadau annibynnol; cynhaliaeth a rheoliadau ynghylch cymeradwyo gofalwyr maeth ac ati.

Wrth gryfhau ‘Diogelu’ (Rhan 7) mae’r Bil yn darparu ar gyfer:

  • Fframwaith statudol newydd i ddiogelu oedolion sydd mewn perygl. Mae’n cynnwys darpariaethau sy’n caniatáu i swyddogion awdurdodedig o awdurdod lleol wneud cais i’r llys am “orchymyn amddiffyn a chefnogi oedolion”. Bydd gorchymyn o’r fath yn rhoi pŵer mynediad i ymarferwyr fel y gallant siarad ag oedolyn yr amheuir ei fod mewn perygl.
  • Dyletswyddau ar y partneriaid perthnasol i hysbysu’r awdurdod lleol os ydynt yn amau y gallai rhywun fod yn oedolyn mewn perygl.
  • Sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol newydd er mwyn rhoi arweiniad cenedlaethol ar yr agenda ddiogelu a chynghori Gweinidogion ynghylch pa mor ddigonol a pha mor effeithiol yw’r trefniadau diogelu.  
  • Creu Byrddau Diogelu Plant newydd a Byrddau Diogelu Oedolion newydd. Caiff ardaloedd y Byrddau a phartneriaid arweiniol y Byrddau eu pennu mewn rheoliadau.

O ran y Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol ehangach (Rhan 8) mae’r Bil yn darparu ar gyfer:

  • Gweithredu argymhelliad Comisiwn y Gyfraith y dylai’r Llywodraeth gyhoeddi cod(au) ymarfer er mwyn rhoi canllawiau i awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol ynghylch arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
  • Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn y ffordd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol am resymau penodol a nodir yn y Bil; a chyhoeddi cyfarwyddiadau os yw hynny’n briodol.

O dan Canlyniadau llesiant, cydweithredu a phartneriaeth (Rhan 9) mae’r Bil yn darparu ar gyfer:

  • Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad o’r canlyniadau sydd i’w sicrhau o ran llesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt.
      
  • Bydd gan Weinidogion Cymru bwerau i gyhoeddi Cod i helpu i sicrhau’r canlyniadau. Gall y Cod osod gofynion ar awdurdodau lleol a rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ac eraill sy’n darparu gofal a chymorth.

  • Dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i hybu cydweithredu â chyrff partner er mwyn gwella llesiant oedolion y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt.

  • Gofynion ar awdurdodau lleol i hybu’r gwaith o integreiddio gofal a chymorth â’r ddarpariaeth iechyd a’r ddarpariaeth sy’n ymwneud ag iechyd gyda’r nod o wella llesiant, atal afiechyd a gwella ansawdd.

  • Trefniadau partneriaeth i’w pennu drwy reoliadau rhwng awdurdodau lleol â’i gilydd a rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol.

  • Pwerau i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol i wneud trefniadau ar y cyd mewn perthynas â’u swyddogaethau i gynnal a gweithredu gwasanaethau mabwysiadu. Mae hynny’n galluogi Gweinidogion Cymru i gyflwyno eu hamcanion polisi mewn perthynas â Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Mabwysiadu. 

Yn olaf, mewn perthynas â Chwynion a sylwadau (Rhan 10) mae’r Bil yn darparu ar gyfer:

  • Fframwaith newydd ar ddyletswyddau awdurdodau lleol, o ran y ffordd y maent yn ystyried sylwadau a chwynion gan bobl am swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

*

Seiliwyd y cynigion drafft ar gyfer y Bil hwn ar drafodaethau â’r rhanddeiliaid allweddol, yn ogystal â dadleuon yn y Cynulliad ac mewn mannau eraill, yn dilyn cyhoeddi Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru. Darparodd tystiolaeth y Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru; adolygiad Comisiwn y Gyfraith o’r ddeddfwriaeth ar ofal cymdeithasol i oedolion, a’n hadolygiad ni ein hunain, yr Adolygiad o Ddiogelu, dystiolaeth bellach i’w ystyried wrth ddatblygu’r cynigion hyn.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil am gyfnod o 12 wythnos rhwng 12 Mawrth ac 1 Mehefin 2012. Amlinellodd yr ymgynghoriad brif egwyddorion y meysydd i’w newid, a gofynnodd am sylwadau am gynnwys arfaethedig y Bil. Derbyniwyd 275 o ymatebion ysgrifenedig yn ystod y cyfnod hwn o 12 wythnos, a chynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau y daeth dros 500 o bobl iddynt.

Gellir gweld copi o’r ddogfen ymgynghori ynghyd â Chrynodeb o’r Ymatebion, a gyhoeddais ar ffurf Datganiad Gweinidogol Ysgrifenedig ar 17 Hydref 2012, ar wefan Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir yr ymatebion unigol yn fuan hefyd.

Caiff Datganiad Deddfwriaethol ei wneud yn y Cyfarfod Llawn yfory er mwyn cyflwyno’r Bil ac rwy’n edrych ymlaen at weld y Cynulliad yn ystyried y Bil dros y misoedd nesaf.