Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Dymunaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad ynglŷn ag Amddiffyn Asedau Cymunedol a ddaeth i ben ar 11 Medi 2015. Mae copi o’r ymateb i’r ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Canfu’r ymgynghoriad bod llawer iawn o gefnogaeth i sefydlu cynllun ar gyfer Cymru a fyddai’n galluogi grwpiau cymunedol i enwebu tir neu adeiladau, o eiddo cyhoeddus neu breifat, os bernir eu bod yn gwella lles cymdeithasol neu ddiddordebau cymdeithasol cymuned. Os caiff ased a gafodd ei enwebu’n llwyddiannus ei osod ar werth ar ôl hynny, mae hyn yn cychwyn proses lle y caniateir i grwpiau cymunedol gael cyfle ac amser i wneud cynnig am yr ased yn ystod cyfnod moratoriwm.

Roedd cefnogaeth eang i’r diffiniad o Ased o Werth Cymunedol a nodir yn Neddf Lleoliaeth 2011. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr o’r farn mai’r modd gorau o wneud penderfyniadau ynglŷn â rhestru asedau yw ar lefel leol, wedi’i lywio gan y cyd-destun lleol. Awdurdodau Lleol sydd yn y sefyllfa orau i weinyddu cynllun o’r fath a chynnal y cofrestri lleol. Gellid gwneud hyn ochr yn ochr â swyddogaethau Cynllunio Awdurdod Lleol. Gallai’r broses hon lywio swyddogaethau Cynllunio Awdurdodau Lleol.

Fodd bynnag, dywedodd nifer o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad y dylai mwy o ganllawiau gael eu darparu i Awdurdodau Lleol i’w cynorthwyo i weinyddu’r cynllun. Roedd llawer o’r ymatebwyr o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru gasglu rhestr ganolog o asedau ar ei gwefan.

O ystyried bod ymatebion i'r ymgynghoriad o’r farn y dylai cofrestri asedau gael eu rheoli’n lleol, gallai’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer sefydlu Cynllun Asedau o Werth Cymunedol ar gyfer Cymru gael ei sefydlu trwy Orchymyn Cychwyn Pennod 3 rhan 5 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 ac mewn rheoliad dilynol ar gyfer Cymru a wnaed o dan y Ddeddf. Rwyf o’r farn y bydd parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru, yn unol ag Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithio gyda Chymunedau, yn sicrhau bod y dull a weithredir yn gwbl addas yng nghyd-destun Cymru.

Cododd llawer o’r ymatebwyr y ddarpariaeth o gymorth priodol i Grwpiau Cymunedol sy’n dymuno gwneud cynnig am asedau. Mae’n hanfodol bod cyngor cryf a chadarn ar gael i sicrhau bod unrhyw gynlluniau i reoli asedau neu wasanaethau gan gymuned yn realistig ac yn gynaliadwy. Mae’r prosiect arbrofol yr wyf wedi’i ariannu yng Ngwent wedi bod yn galonogol hyd yn hyn, ond bydd angen gwerthuso hwn yn ofalus i benderfynu a yw’n darparu model defnyddiol ar gyfer gweddill y wlad. Rwyf o’r farn bod y trefniadau cymorth yn rhan angenrheidiol ac annatod o unrhyw ddull o amddiffyn asedau cymunedol.

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cefnogi rhoi mwy o gyfle i gymunedau brynu asedau pan eu bod ar werth.

Nid yw’r Ddeddf Lleoliaeth yn darparu ‘hawl cynnig cyntaf i gymunedau’, lle byddai grŵp cymunedol yn gallu cofrestru diddordeb mewn ased a chael y cyfle cyntaf i’w brynu os yw ar werth. Byddai angen deddfwriaeth sylfaenol newydd ar gyfer hyn. Byddai angen asesu’n llawn unrhyw gynigion manwl yn y dyfodol i sicrhau eu bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Mae sefydlu cynllun ar gyfer Cymru yn cynnwys yr angen am adnoddau a byddai’n ddarostyngedig i asesiad effaith rheoleiddiol i benderfynu ar y costau disgwyliedig, y buddion ac effaith y polisi.

Fel y nodais yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 25 Mawrth 2015, bydd deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â’r mater hwn, gan gynnwys gwneud Gorchymyn Cychwyn i ddod â darpariaethau perthnasol Deddf Lleoliaeth 2011 i rym yn digwydd ar ôl Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru y flwyddyn nesaf. Nid wyf mewn sefyllfa i ymrwymo Llywodraeth yn y dyfodol i unrhyw gamau gweithredu penodol, ond, rwyf yn credu bod cefnogaeth drawsbleidiol i gamau gweithredu ar y mater hwn.

Mae amddiffyn asedau o werth cymunedol yn un darn o’r jig-so o rymuso cymunedau i reoli’r asedau a’r cyfleusterau y maent yn falch ohonynt. Mae Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn ddarn arall a chanfu’r ymgynghoriad bod cefnogaeth i gymunedau allu cychwyn trosglwyddiadau asedau o’r sector cyhoeddus. Rhoddir ystyriaeth i drosglwyddo asedau awdurdod lleol yn rhan o ddatblygiad parhaus Bil Llywodraeth Leol (Cymru). Rydym yn ceisio sylwadau ychwanegol yn rhan o’r ymgynghoriad.

O safbwynt cyrff cymunedol, y mater a godwyd amlaf fel rhwystr i drosglwyddo ased oedd ansawdd yr ymgysylltu rhwng Awdurdodau Lleol a chyrff cymunedol. Nodwyd y cyfnod rhybudd a roddir i gyrff cymunedol am warediad ac ansawdd y wybodaeth a ddarperir (gan gynnwys ynglŷn ag atebolrwydd) yn aml.
Roedd cyrff cymunedol hefyd yn disgwyl i Awdurdodau Lleol fabwysiadu partneriaeth, yn hytrach na dull trafodol ac i gydnabod yr angen am gymorth parhaus yng nghamau cynnar y broses drosglwyddo. Nododd Awdurdodau Lleol y diffyg gallu ymhlith cyrff cymunedol, er enghraifft arbenigedd cyfreithiol, iechyd a diogelwch, fel rhwystr i wneud busnes.

Mae’r ymateb i’n hymgynghoriad wedi dangos diddordeb bywiog yn y materion hyn gan amrywiaeth eang o randdeiliaid. Fel rwyf wedi ei nodi, bydd angen i gamau gweithredu i amddiffyn asedau cymunedol fod wedi’u cyfochri’n agos â gwaith arall i gefnogi a chryfhau cymunedau.