Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y RHAGLEN BRECHU PLANT RHAG Y FFLIW

Rwy’n ysgrifennu i hysbysu Aelodau, oherwydd ffactorau y tu hwnt i'n rheolaeth, y caiff y rhaglen imiwneiddio rhag y ffliw mewn ysgolion cynradd ar gyfer plant 4-10 oed ei had-drefnu oherwydd oedi o ran cyflenwi’r brechlyn.

Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr, sy'n gyfrifol am gaffael y brechlynnau ar ran y DU, wedi ein hysbysu y bydd oedi o ran rhai cyflenwadau o'r brechlyn chwistrell trwyn (Fluenz Tetra®) a ddefnyddir yn y rhaglen brechu plant rhag y ffliw. Bydd yr oedi yn effeithio ar gyflenwadau a oedd i fod i gyrraedd yn ystod mis Tachwedd. Mae'r oedi wedi ei achosi gan faterion sy'n ymwneud â chynnal profion rheolaidd gan y gweithgynhyrchwr, ac nid yw'n ymwneud â diogelwch y brechlyn na'i effeithiolrwydd. Nid yw'r brechlyn ar gael o gyflenwr arall.

Er mwyn sicrhau nad yw'r oedi o ran cyflenwi'r brechlyn yn effeithio ar y rheini sydd fwyaf agored i niwed, mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi ysgrifennu at fyrddau iechyd a Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru i ofyn iddynt ail-flaenoriaethu brechu ym maes gofal sylfaenol plant:

  • 2 a 3 oed
  • 2 i 17 oed mewn grŵp risg clinigol (gan gynnwys y rheini a fyddai fel arfer yn cael brechlyn yn yr ysgol).

Dechreuodd y broses o archebu brechlynnau ffliw plant ar gyfer gofal sylfaenol ar 18 Hydref, ac mae digon o stoc a threfniadau nas effeithiwyd arnynt i ddanfon cyflenwadau i sicrhau y caiff yr elfen hon o'r rhaglen ei chwblhau. Er mwyn diogelu pob plentyn mewn grwpiau risg clinigol yn y ffordd orau bosibl, mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi gofyn i feddygon teulu frechu'r grwpiau hyn â blaenoriaeth cyn gynted â phosibl.

Mae byrddau iechyd eisoes wedi cael dros 80,000 o ddosau o'r brechlyn ar gyfer y rhaglen brechu mewn ysgolion erbyn y gwyliau hanner tymor - mae hynny'n ddigon ar gyfer 46% o gyfanswm nifer y plant a frechwyd mewn ysgolion y llynedd. Mae'n bosibl y gall Lloegr barhau â'u rhaglen brechu mewn ysgolion am gyfnod hwy, ond mae hynny oherwydd yn gyfrannol y byddant wedi defnyddio llai o'r stoc a ddyrannwyd yn gyfrannol iddynt ym mis Hydref.

Rwy'n rhagweld y bydd y dyraniad llawn o frechlynnau ar gyfer Cymru yn cyrraedd yn ystod y tymor, ac y bydd y rhaglen brechu mewn ysgolion yn ailddechrau cyn gynted â bod cyflenwadau digonol ar gael. Gall fyrddau iechyd y mae brechlynnau ar gael eisoes ganddynt mewn fferyllfeydd barhau â'r rhaglen brechu mewn ysgolion am gyhyd â phosibl, neu ddefnyddio'r stoc i gynorthwyo practisau cyffredinol.

Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi gofyn i fyrddau iechyd aildrefnu'r sesiynau brechu mewn ysgolion hynny a gaiff eu gohirio, a sicrhau bod anghenion rhieni o ran gwybodaeth leol yn cael eu diwallu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu deunyddiau i fod o gymorth i fyrddau iechyd a phractisau yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys templedi llythyrau ac atebion i Gwestiynau Cyffredin.

Er bod y sefyllfa hon yn anffodus ac yn heriol, ein blaenoriaeth yw diogelu cynifer o blant â phosibl rhag effeithiau'r ffliw, a helpu i atal y ffliw rhag lledaenu yn y gymuned i unigolion eraill sy'n agored i niwed.

 

BRECHLYNNAU OEDOLION

Mae'n bosibl bod aelodau hefyd yn ymwybodol y bu oedi o ran argaeledd brechlyn pedwarfalent a gynhyrchir gan Sanofi, sef brechlyn a argymhellir ar gyfer oedolion o dan 65 oed sy'n wynebu risg. Mae'r oedi o ran cyhoeddi cyfansoddion y brechlyn ar gyfer y gaeaf hwn wedi rhoi pwysau ychwanegol ar weithgynhyrchwyr i gynhyrchu'r miliynau o frechlynnau sydd eu hangen ar gyfer hemisffer y gogledd erbyn yr adeg arferol. Mae hyn wedi cael mwy o effaith ar y brechlynnau hynny sy'n cymryd mwy o amser i'w cynhyrchu, ac mae hyn wedi arwain at anfon cyflenwadau fesul cam i bractisau.

Mae brechlynnau ffliw i'w chwistrellu yn cael eu harchebu gan bractisau cyffredinol a fferyllfeydd yng Nghymru yn uniongyrchol o'r gweithgynhyrchwyr neu'r cyflenwyr; nid ydynt yn cael eu cyflenwi drwy'r GIG.  Roedd brechlynnau eraill ar gyfer pobl o dan 65 oed sy'n wynebu risg ar gael i'w harchebu, ac nid oes oedi o ran y cyflenwadau hynny. Nid yw hyn wedi effeithio ar frechlynnau i bobl dros 65 oed ychwaith. 

Nid yw'r ffliw yn dueddol o ddechrau mynd ar led tan tua chanol mis Rhagfyr, ond rwy'n gwerthfawrogi bod unrhyw oedi o ran cael y brechlyn yn peri pryder. Os nad oes brechlyn addas ar gael mewn meddygfeydd meddygon teulu, dylai unigolion sydd mewn grwpiau sy'n wynebu risg ystyried cael y brechlyn mewn fferyllfa leol sy'n cynnig gwasanaeth brechu rhag y ffliw y GIG.

Rwy'n cydnabod yr effaith y mae oedi o ran cyflenwadau brechlynnau yn ei chael ar gyflawni'r ymgyrch brechu rhag y ffliw.  Rwy'n ddiolchgar am gymorth staff practisau cyffredinol, y gwasanaeth nyrsio mewn ysgolion a staff y GIG yn ystod y cyfnod heriol hwn.