Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rydym yn cyhoeddi ein hadroddiad ar Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau.

Cafodd y Rhaglen Gwella Bywydau ei chreu mewn ymateb i'r her yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb, i sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach a ffyniannus.

Dechreuodd y Rhaglen ym mis Chwefror 2017 gydag adolygiad eang a oedd yn ystyried pa anghenion fyddai gan bobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr gydol eu hoes, a sut y mae'r anghenion hynny'n cael eu diwallu ar hyn o bryd, os o gwbl.

Rydym wedi gweithio gyda'r gymuned anabledd dysgu er mwyn cyflawni'r canlyniadau a gytunwyd ar gyfer yr adolygiad. Cynhaliwyd cyfarfodydd â thros 2,000 o bobl, ac mae'r argymhellion yn adlewyrchu lleisiau pobl ag anableddau dysgu, ynghyd â'u teuluoedd a'u gofalwyr, a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw.

Mae Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau yn deillio o'r adolygiad a'r cydweithio helaeth hwnnw. Er mwyn helpu i roi'r rhaglen ar waith, rwyf wedi sefydlu Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anableddau Dysgu. Ymysg yr aelodau mae pobl ag anableddau dysgu, teuluoedd a gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol o awdurdodau lleol a'r sectorau iechyd ac elusennol.  Bydd y grŵp dan gadeiryddiaeth Gwenda Thomas, cyn Aelod Cynulliad a Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda Sophie Hinksman, cynrychiolydd Pobl yn Gyntaf Cymru yn gyd-gadeirydd.

I fynd at y Rhaglen Gwella Bywydau, cliciwch ar y ddolen hon:

https://gov.wales/topics/health/professionals/nursing/learning/?skip=1&lang=cy 

Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar y Rhaglen hon yn ystod yr wythnosau nesaf.