Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fe fydd Aelodau yn ymwybodol fy mod wedi bod yn ystyried yn ofalus Adroddiad yr Arolygydd ynghyd â chyngor gan swyddogion ar Brosiect yr M4.

Rwy’n rhagweld y byddaf mewn sefyllfa i gyhoeddi fy mhenderfyniad ynghylch a ddylid gwneud y gorchmynion cyfreithiol sydd eu hangen er mwyn i’r prosiect fynd yn ei flaen yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Mehefin neu beidio.

Unwaith bydd y penderfyniad wedi’i gadarnhau, fe gyhoeddir llythyr yn amlinellu’n llawn y rhesymau dros y penderfyniad.  Darperir dolen i fersiynau electronig o  Adroddiad yr Arolygydd, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ochr yn ochr â’r llythyr.