Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Prif Weinidog
Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn gwneud y datganiad hwn o dan adrannau 6(8) a 15(4) o Ddeddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 ("y Ddeddf”).

Rydym wedi cwblhau’r adolygiad o'r paratoadau ar gyfer cynnal pleidlais 2021 ar gyfer etholiad cyffredinol arferol y Senedd ar 12 Mawrth. Gallwn gadarnhau, at ddibenion yr adolygiad hwn, nad yw’r meini prawf a gyhoeddwyd gennym ar 5 Mawrth o dan adran 12 o'r Ddeddf (er mwyn penderfynu a yw'n angenrheidiol neu'n briodol gohirio'r bleidlais ar gyfer etholiad cyffredinol arferol y Senedd am resymau’n ymwneud â’r coronafeirws) wedi’u bodloni.

Adlewyrchwyd hyn yn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 12 Mawrth:

Daethom i’r casgliad yn yr adolygiad yr wythnos hon nad oedd yr amodau ar gyfer gohirio etholiad Senedd Cymru wedi’u bodloni.  Felly bydd y paratoadau ar gyfer 6 Mai yn parhau.  Cyhoeddir y canllawiau ar gyfer ymgyrchu ddydd Gwener a chaiff elfennau eu hadlewyrchu yn y rheoliadau.  Mae’r newid i ‘aros yn lleol’ yn golygu y bydd modd rhannu taflenni’n lleol, ond bydd canfasio o ddrws i ddrws yn dal yn waharddedig, yn unol â’r rheoliadau.

Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am statws y dangosyddion o dan y meini prawf cyhoeddedig ar adeg yr adolygiad.

Maen Prawf 1: Sefyllfa Iechyd y Cyhoedd (data'n gywir ar 5 Mawrth)

Dangosyddion allweddol:

Cyfradd yr achosion wedi’u cadarnhau.

Y gyfradd ar gyfer Cymru oedd 53 o achosion am bob 100,000 o bobl yn seiliedig ar ddata Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Capasiti ysbytai.

527 oedd y gyfradd defnydd gwelyau mewn ysbytai oherwydd COVID-19 (cyfartaledd treigl 7 diwrnod). Cadarnhaodd StatsCymru mai 48 oedd y gyfradd defnydd gofal dwys oherwydd COVID-19 (cyfartaledd treigl 7 diwrnod).

Adborth gan weithwyr iechyd proffesiynol lleol (gan gynnwys timau rheoli achos lluosog neu dimau rheoli brigiad).

Ni chafwyd unrhyw adborth a fyddai'n awgrymu bod cynnal yr etholiad yn risg annerbyniol.

Adborth gan arweinwyr awdurdodau lleol a phartneriaid lleol eraill.

Ni chafwyd unrhyw adborth a fyddai'n awgrymu bod cynnal yr etholiad yn risg annerbyniol.

Cyfraddau newid yn nangosyddion y Lefelau Rhybudd.

Roedd y dangosyddion Lefel Rhybudd yn sefydlog a/neu’n gostwng.

Cynnydd y rhaglen frechu.

Roedd y rhaglen frechu'n mynd rhagddi’n dda. Roedd 951,540 o unigolion wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn COVID-19, tra bod 139,445 o unigolion wedi derbyn cwrs dau ddos y brechlyn COVID-19.

Achosion o amrywiolion sy'n peri pryder.

Nid ystyrid bod amrywiadau o bryder yn peri risg annerbyniol yng nghyd-destun cynnal yr etholiad.

Maen Prawf 2: Statws y Paratoadau ar gyfer yr Etholiad

Dangosyddion allweddol:

Cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru a’r Gell Cyngor Technegol ynghylch effaith lledaeniad presennol y feirws ar y gallu i gynnal y bleidlais yn ddiogel.

Roedd cyngor cychwynnol Prif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru a’r Gell Cyngor Technegol ynghylch effaith lledaeniad presennol y feirws ar y gallu i gynnal y bleidlais yn ddiogel yn gadarnhaol. Roedd gwaith modelu yn awgrymu bod cyfraddau heintio, marwolaethau a defnydd ysbytai yn y cyfnod tua 6 Mai yn debygol o fod ar lefel ddigon isel i beidio â golygu bod yr etholiad yn peri risg o gynnydd yn y lefelau heintio i’r graddau y byddai risg sylweddol i iechyd y cyhoedd ac i’r gallu i gynnal yr etholiad yn ddiogel. Roedd hyn yn rhagdybio bod mesurau priodol, megis cadw pellter cymdeithasol a mwy o hylendid, yn cael eu rhoi ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfrif er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws.

Roedd y cyngor yn nodi bod effaith y trosglwyddo yn debygol o gael llai o effaith pan fydd yr achosion o COVID-19 yn is. Ar y sail hon, mae'r amcangyfrifon sydd wedi'u modelu felly'n argymell mai’r dyddiad a ffefrir ar gyfer yr etholiad yw 6 Mai, yn hytrach na’r dyddiad enghreifftiol o 8 Gorffennaf. Y rheswm am hyn yw mai dyna’r dyddiad agosaf at y cyfnodau o gyfyngiadau sy’n lleihau lledaeniad y feirws ar hyn o bryd.

Mae’r cyngor llawn terfynol i’w weld yma: https://llyw.cymru/y-grwp-cyngor-technegol-lliniaru-risgiau-cynyddu-trosglwyddo-covid-19-yn-ystod-etholiadau

Roedd yr adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ynghylch sut i liniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt eisoes wedi’u cynnwys mewn canllawiau a chynlluniau perthnasol. Mae ein swyddogion yn parhau i weithio gyda Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol, gweinyddwyr etholiadol, y Comisiwn Etholiadol a phartneriaid eraill i drafod y camau ymarferol y gellir eu cymryd i wella diogelwch y bleidlais.

Amseriad etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Mae etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn dal i fod wedi’u trefnu ar gyfer 6 Mai.

Adborth gan Swyddogion Canlyniadau, y Comisiwn Etholiadol a rhanddeiliaid eraill, er enghraifft mewn perthynas â’r staff a’r lleoliadau a fydd ar gael neu'r gallu i brosesu pleidleisiau pleidleiswyr absennol.

Mae gweinyddwyr etholiadol yn parhau i wneud paratoadau i ganiatáu i’r bleidlais gael ei chynnal yn ddiogel ac yn deg. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol, y Comisiwn Etholiadol a phartneriaid eraill ar effaith y pandemig ar logisteg cynnal yr etholiad.

Cyfarfu'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol â’r Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol ar 3 Mawrth i drafod y paratoadau ar gyfer yr etholiadau ar 6 Mai. Cydnabuwyd, yng nghyd-destun y risgiau a wynebir yn y cyfnod eithriadol hwn, nad yw'n bosibl rhoi sicrwydd llwyr ynghylch cynnal y bleidlais ym mis Mai, nac yn wir ar unrhyw adeg yn ystod y misoedd nesaf. Fodd bynnag, roedd dealltwriaeth gyffredin bod y paratoadau sy'n cael eu gwneud yn ein rhoi mewn sefyllfa mor gryf â phosibl – o ystyried yr amgylchiadau sy'n ein hwynebu ac o ystyried yr angen i roi trefniadau priodol ar waith i ddiogelu rhag Covid – i fod â lefel resymol o hyder y gellid cynnal yr etholiadau ar 6 Mai.

Cyfarfu'r Gweinidog hefyd â'r Comisiwn Etholiadol ac mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol a chynrychiolwyr Heddluoedd Cymru yn ystod y broses hon.

Nodwyd dau risg allweddol yn y trafodaethau:

  • Staffio, a'r risg na fydd digon o wirfoddolwyr yn cynnig eu henwau i ddechrau, neu y byddant yn tynnu'n ôl yn nes at yr etholiad. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn annog gweision sifil, gweision cyhoeddus eraill ac aelodau eraill o'r cyhoedd i gynnig eu henwau, drwy Gwirfoddoli Cymru, i weithio i Swyddogion Canlyniadau i gynnal etholiadau 6 Mai.
  • Bod y rhai sy’n cymryd rhan yn yr etholiad yn derbyn y camau lliniaru angenrheidiol i ddiogelu yn erbyn y coronafeirws mewn gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfrif. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’n glir bod yn rhaid i bawb sy'n cymryd rhan yn yr etholiad ddilyn y rheoliadau a’r canllawiau coronafeirws yn ogystal â’r gyfraith etholiadol ac arweiniad a chyfarwyddiadau gan Swyddogion Canlyniadau. Os bydd prosesau fel cyfrif pleidleisiau yn cymryd mwy o amser, fel sy'n debygol, o ganlyniad i'r trefniadau y mae angen i Swyddogion Canlyniadau eu gwneud i gydymffurfio â’r gyfraith etholiadol a gofynion coronafeirws, bydd y Swyddogion Canlyniadau yn cael cefnogaeth lawn y Gweinidogion.

Gan nad yw'r meini prawf ar gyfer gohirio wedi'u bodloni, ac fel y nodwyd yn y Datganiad Ysgrifenedig ar 12 Mawrth, bydd y paratoadau llawn ar gyfer yr etholiad ar 6 Mai yn parhau.

Rydym yn cefnogi Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol yn y camau y maent yn eu cymryd i leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â chynnal etholiad yn ystod pandemig. Mae'r camau hyn yn cynnwys rhoi mesurau pellter cymdeithasol a hylendid ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfrif. Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i Swyddogion Canlyniadau i’w gwneud yn bosibl gweithredu’r mesurau hyn. Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi ysgrifennu at y rhai sy'n gwarchod eu hunain sy'n gymwys i bleidleisio yn etholiad y Senedd i'w hannog i ystyried pleidleisio drwy'r post. Os bydd yn ofynnol i unigolion hunanynysu yn agos at y diwrnod pleidleisio, bydd modd iddynt wneud cais brys am bleidlais drwy ddirprwy.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar etholiadau yn ogystal â chanllawiau penodol ar ymgyrchu mewn etholiadau sy'n nodi bod rhannu taflenni (fel y mae’r sefyllfa ar 15 Mawrth) yn cael ganiatáu'n lleol, ond y gwaherddir canfasio o ddrws i ddrws. Rhoddir ystyriaeth bellach i hyn yn y trydydd adolygiad 21 diwrnod a fydd wedi'i gwblhau erbyn 2 Ebrill. Bydd y pedwerydd adolygiad, sef yr adolygiad terfynol, o baratoadau'r etholiadau wedi'i gwblhau erbyn 23 Ebrill. Mewn sefyllfa eithriadol, gallai'r Senedd wneud penderfyniad, yn amodol ar gytundeb 40 o’r 60 o Aelodau, i ohirio'r bleidlais ar unrhyw adeg hyd at ddiwrnod diddymu’r Senedd ar 29 Ebrill. Fodd bynnag, fel yr amlinellir yn y Datganiad Ysgrifenedig hwn, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael, bwriad cadarn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw cynnal yr etholiad ar 6 Mai yn ôl y bwriad. Ar y sail hon gallwn gadarnhau o dan adran 6(8) o'r Ddeddf nad yw Prif Weinidog Cymru ar hyn o bryd yn ystyried ei bod yn briodol nac yn angenrheidiol arfer y pŵer o dan adran 6(1) o'r Ddeddf i gynnig i'r Llywydd bod y bleidlais ar gyfer etholiad Senedd 2021 yn cael ei gohirio am reswm sy'n ymwneud â coronafeirws, ac nad yw felly’n bwriadu arfer y pŵer hwnnw.