Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n falch o gael cadarnhau y bydd cynnig gofal plant Cymru yn dechrau derbyn ceisiadau o’r newydd ym mis Awst a mis Medi.  

Etholwyd y Llywodraeth hon ar sail ymrwymiad i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal i blant tair a phedair oed rhieni sy’n gweithio, am 48 wythnos y flwyddyn. Mae hyn wedi bod ar gael ledled Cymru ers Ebrill y llynedd, ac roedd tua 14,600 o blant yn manteisio ar y cynnig gofal plant ym mis Ionawr 2020.

Ar 1 Ebrill, yn sgil pandemig y coronafeirws, bu’n rhaid inni gymryd y cam digynsail o atal y cynnig dros dro i ymgeiswyr newydd wrth inni ganolbwyntio adnoddau ar anghenion gofal plant gweithwyr hanfodol a phlant a oedd yn agored i niwed drwy Gynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws.

Rwyf am ddiolch i’n hawdurdodau lleol am y ffordd y maent wedi rhedeg Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws a chefnogi teuluoedd sydd ag anghenion amrywiol a chymhleth yn aml. Mae darparwyr gofal plant wedi bod yn wych – a llawer ohonynt wedi cadw’u drysau ar agor tra oedd y feirws ar ei waethaf er mwyn sicrhau bod gweithwyr hanfodol yn gallu cyfrannu’n effeithiol at yr ymdrech genedlaethol yn erbyn y pandemig

Ers 22 Mehefin, mae darparwyr gofal plant wedi gallu gofalu am fwy o blant a chynyddu eu gweithgarwch, neu ailagor yn llawn.

Wrth i ysgolion baratoi i ailagor eu drysau i bob dysgwr o fis Medi, bydd rhieni a darparwyr gofal plant hefyd am gael sicrwydd o ran y cynnig gofal plant.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n partneriaid i ymchwilio i’r opsiynau wrth ailgychwyn y cynnig. Bydd yn ailddechrau derbyn ceisiadau am ofal plant ym mis Awst a mis Medi.

Bydd modd i rieni a fyddai wedi bod yn gymwys i fanteisio ar y cynnig yn ystod tymor yr haf, ond a gollodd dymor cyfan am nad oeddent wedi dechrau defnyddio’r cynnig cyn y pandemig, yn gallu cyflwyno eu ceisiadau o ganol Awst.

Caiff ceisiadau gan rieni y bydd eu plentyn yn gymwys ar gyfer y cynnig yn yr hydref eu hystyried o ddechrau Medi ymlaen. Bydd manylion o ran pryd a sut i wneud cais ar gael ar wefannau awdurdodau lleol.  

Bydd modd i rieni fanteisio ar le unwaith y bydd eu hawdurdod lleol wedi prosesu eu cais, os ydynt yn gymwys. 

Bydd awdurdodau lleol yn gallu manteisio ar y grant cymorth ychwanegol i sicrhau bod unrhyw blentyn sydd ag anghenion ychwanegol yn gallu elwa ar y cynnig yn yr un ffordd â phlant eraill. Yr un trefniadau yw’r rhain ag oedd ar waith cyn y pandemig.

Bydd awdurdodau lleol yn gweithio’n galed i sicrhau bod modd i blant fanteisio ar y cynnig cyn gynted â phosibl. Yn anochel, byddant yn delio â nifer fawr o geisiadau dros gyfnod byr, a gwyddom y bydd amgylchiadau rhai teuluoedd wedi newid yn sylweddol dros y misoedd diwethaf. Mae’n bosibl y bydd yn cymryd yn hirach nag arfer i gymeradwyo ceisiadau mewn rhai ardaloedd.   

Rwy’n gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn helpu rhieni a ddarparwyr i wneud eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn fwy hyderus.  

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.