Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Bydd y cylch ailbrisio ardrethi annomestig nesaf yng Nghymru yn cael ei gynnal yn 2021, gan gyd-fynd â'r cylch ailbrisio nesaf yn Lloegr.
Bydd dod â'r cylch ailbrisio ymlaen flwyddyn o 2022 yn golygu y bydd y gwerth ardrethol, y mae biliau ardrethi annomestig yn seiliedig arno, yn adlewyrchu amodau cyfredol y farchnad, gan sicrhau bod talwyr ardrethi yng Nghymru yn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae'r penderfyniad hwn yn rhoi sicrwydd i dalwyr ardrethi wrth i Lywodraeth Cymru fynd ati i ymchwilio i ffyrdd o ddiwygio'r system mewn modd mwy sylfaenol.
Y llynedd, rhoddais amlinelliad o'n dull gweithredu ar gyfer diwygio trethi lleol – y dreth gyngor a'r ardrethi annomestig – fel rhan annatod o system gyllid ehangach llywodraeth leol. Cyhoeddais yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith hwn fis Hydref diwethaf, a byddaf yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth yn yr hydref.
Wrth ddiwygio'r system ardrethi busnes, ein nod yw cryfhau cadernid ein hawdurdodau lleol; sicrhau tegwch i ddinasyddion a busnesau; a hefyd sicrhau bod cyllid cynaliadwy ar gael i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol.
Rydym eisoes wedi cyflawni nifer o'n nodau tymor byr ar gyfer datblygu system ardrethi annomestig i Gymru, gan gynnwys rhoi ein cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach ar sail barhaol; newid y sail ar gyfer graddfeydd uwch i'r lluosydd; ac ymgynghori ar welliannau i'r broses o weinyddu ardrethi.
Bellach rydym yn ystyried cwestiynau ehangach a mwy tymor hir ynghylch ardrethi busnes, gan gynnwys a fyddai'n ymarferol defnyddio dulliau gweithredu gwahanol ar gyfer prisio eiddo yng Nghymru; a fyddai hynny'n decach; ac a fyddai manteision i wasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru. Rydym hefyd yn edrych ar botensial opsiynau eraill, megis treth gwerth tir, fel ffordd arall o godi refeniw o eiddo annomestig yn y tymor hir.
Gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion ar gyfer sut y gallai dulliau gweithredu rhanbarthol helpu i hybu twf economaidd fel rhan o fargeinion dinesig a bargeinion twf yng Nghymru. Yn ddiweddar, rwyf wedi cymeradwyo dull gweithredu mewn egwyddor i'r awdurdodau lleol sy'n gysylltiedig â bargen ddinesig Bae Abertawe o ran cadw 50% o'r ardrethi busnes a gynhyrchir gan brosiectau sy'n rhan o'r fargen.
Bydd angen ystyried newidiadau mwy sylfaenol i ardrethi busnes yng Nghymru yn y dyfodol, a datblygu'r newidiadau hynny dros gyfnod hirdymor. Fodd bynnag, yn y tymor byr, rwyf am fod yn hyderus na fyddai unrhyw newidiadau a wneir i'n system ardrethi busnes heddiw, yn cyfyngu ar ein hopsiynau yn y dyfodol, neu’n eu rhwystro rhag gweithio, pe gallai'r opsiynau hynny ddiwallu anghenion a chyflawni amcanion yng Nghymru.
O ystyried yr amrywiaeth o opsiynau a allai godi o'r gwaith ymchwilio yr ydym yn ei gyflawni, byddai'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ymrwymo i ddefnyddio'n un system o ailbrisio bob tair blynedd ar ôl 2021 ag a gyhoeddwyd yn Lloegr. Nid wyf wedi gwrthod yr opsiwn hwn yn llwyr, ond rwy'n awyddus i edrych ar yr holl opsiynau a fyddai'n bosibl yng Nghymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyngor gan arbenigwyr ac yn gweithio gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni mewn modd agored, a rhoddir gwybod am unrhyw gynigion wrth iddynt gael eu datblygu.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i sicrhau bod y broses ailbrisio ar gyfer 2021 yn cael ei weithredu mewn modd amserol a chywir, gan adlewyrchu ein huchelgais ar gyfer pobl a busnesau Cymru.