Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fwriadu cynnal etholiad y Senedd ar 6 Mai 2021, ac mae’r gwaith o’i drefnu yn mynd rhagddo ar y sail honno. Fodd bynnag, nid yw’n bosibl rhag-weld beth fydd yr union sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd erbyn mis Mai nesaf. Wrth i bandemig y coronafeirws fynd rhagddo ac esblygu, mae’n bosibl y bydd yn effeithio ar agweddau ar drefniadau’r etholiad ac efallai y bydd angen gwneud rhai addasiadau.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru y Grŵp Cynllunio Etholiadau – sy’n cynnwys cynrychiolwyr sefydliadau amrywiol sy’n ymwneud â’r etholiadau, pleidiau gwleidyddol, rhanddeiliaid eraill a swyddogion o Lywodraeth Cymru – i ystyried effaith bosibl y mesurau coronafeirws ar y gwaith o weinyddu’r etholiad ac, yn benodol, unrhyw oblygiadau ar gyfer y ddarpariaeth ddeddfwriaethol sy’n sail iddo.

Mae adroddiad y Grŵp Cynllunio Etholiadau hwnnw imi ynghlwm wrth y Datganiad Ysgrifenedig hwn.  

Rwy’n ddiolchgar i gynrychiolwyr y gwahanol bleidiau a sefydliadau am eu cyfraniad at waith y Grŵp. Roedd eu cyfraniad yn werthfawr o ran canfod meysydd o gonsensws wrth inni geisio sicrhau bod modd cynnal etholiad diogel ym mis Mai 2021, ac o ran ystyried materion ehangach amrywiol. Rwyf bellach wedi cael cyfle i ystyried yr adroddiad, a’i drafod mewn cyfarfod o Gabinet Llywodraeth Cymru.

Cyrhaeddodd y Grŵp Cynllunio Etholiadau gonsensws ar nifer o feysydd, y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu. Mae ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i faterion eraill sydd dan sylw yn adroddiad y Grŵp, a materion sy’n codi ohono.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu trefnu cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Tachwedd i roi cyfle i’r Aelodau rannu eu sylwadau ar y pwnc hwn, ac i alluogi Llywodraeth Cymru i amlinellu rhagor o wybodaeth am y camau nesaf.