Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn gyntaf, rwyf am nodi fy niolchiadau i’r Arglwydd Burns, ei grŵp o Gomisiynwyr, a swyddogion Llywodraeth Cymru a gefnogodd Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru am adroddiad rhagorol sy’n procio’r meddwl. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr argymhellion yn fanwl, a byddaf yn gwneud datganiad manylach i’r Senedd ym mis Rhagfyr.

Gan ddod mor fuan wedi cyhoeddi Llwybr Newydd – Strategaeth newydd Trafnidiaeth Cymru ar gyfer ymgynghoriad, rwy’n falch o weld tebygrwydd agos y ddwy ddogfen, a fydd gyda’i gilydd yn newid ein meddylfryd ynghylch sut y mae pobl yn symud o amgylch Cymru, a thu hwnt.  

Rwy’n croesawu’n fawr gyfeiriad yr adroddiad, ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu ein syniadau, ochr yn ochr â’n partneriaid yng Nghasnewydd ac awdurdodau lleol eraill, Trafnidiaeth Cymru, a Llywodraeth y DU.

Mae’r Comisiwn wedi amlinellu cyfres uchelgeisiol o gynigion.  Os caiff ei weithredu’n llwyddiannus byddant yn rhoi dewisiadau trafnidiaeth newydd I bobl sy’n byw yn Ne-ddwyrain Cymru a’r ardaloedd cyfagos, gan alluogi’r rhanbarth I symud I ffwrdd o ddibynnu ar y car preifat a thagfeydd ar y ffyrdd, gyda chyfleoedd I gael cydbwysedd rhwng defnyddio ceir a thrafnidiaeth gyhoeddus o safon uchel a theithio llesol.  Yno gystal â mynd I’r afael â thagfeydd lleol, byddai hyn yn cael effaith gwirioneddol ar ansawdd yr aer a mynd I’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. 

Mae rhai o’r cynigion hyn o fewn ein cymhwysedd datganoledig, ond nid yw eraill.  

Rwyf wedi dechrau ar drafodaethau positif gydag Arweinydd Cyngor Casnewydd ynghylch sut y gallwn gydweithio ar y mesurau teithio ar fysiau a theithio llesol.

Mae’r argymhellion i’r rheilffyrdd yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ac i weithredu y gwelliannau angenrheidiol i’r seilwaith rheilffyrdd ar draws y rhanbarth ar fyrder.  

Fel a nodwyd gennyf yn gynharach yr wythnos hon, mae Llywodraeth y DU wedi bod araf iawn wrth fuddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru. 

Mae hwn yn gyfle positif i Lywodraeth y DU fuddsoddi i sicrhau tegwch o ran buddsoddi ac rwy’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â hwy i gyflawni gweledigaeth Burns. 

Rwy’n croesawu canfyddiadau’r adroddiad hwn ac wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru gydweithio’n agos gyda’n partneriaid yng Nghyngor Casnewydd i’m cefnogi i ddatblygu ymateb mwy manwl y byddaf yn ei gyflwyno i’r Senedd ar 8fed Rhagfyr 2020.   

Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru: argymhellion terfynol