John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd o dan adran 79 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i gyhoeddi adroddiad sy’n amlinellu sut y mae’r cynigion yn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi’u rhoi ar waith, ac i gyflwyno copi o’r adroddiad hwn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Rwyf felly’n falch iawn o gyflwyno copi o’n Hadroddiad Blynyddol Datblygu Cynaliadwy ar gyfer y cyfnod Ebrill 2010 – Mawrth 2011 gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Dyma ein trydydd Adroddiad Blynyddol Datblygu Cynaliadwy ers inni gyhoeddi ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy, Cymru’n Un: Un Blaned, er dyma fy Adroddiad cyntaf ers dod yn Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy.
Mae’n rhoi corff o dystiolaeth i ddangos sut yr ydym wedi defnyddio datblygu cynaliadwy fel ein hegwyddor drefnu ganolog ledled Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod pob un o’n penderfyniadau yn hybu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau Cymru, yn awr ac yn y dyfodol. Mae’n dangos sut y mae’r dull hwn yn gwneud gwahaniaeth real a hirdymor i ansawdd bywyd pobl. Rydym hefyd yn nodi sut yr ydym wedi mynd ymlaen â’r 18 cam penodol sydd wedi’u cynnwys yn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy.
Mae’r adroddiad yn cynnwys sylwadau ar ein Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy, sy’n dangos ein cynnydd tuag at ddod yn genedl gynaliadwy.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys sylwadau annibynnol gan Peter Davies, ein Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, a Cynnal Cymru, y corff sy’n cynorthwyo’r Comisiynydd ac sy’n hybu datblygu cynaliadwy yng Nghymru.
Rwy'n gobeithio bydd yr Adroddiad Blynyddol hwn yn annog sefydliadau, cymunedau ac unigolion i barhau i weithio gyda ni er mwyn adeiladu ar y cynnydd a chryfhau datblygu cynaliadwy yng Nghymru.