Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafodd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 eu cyflwyno ar 8 Medi yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fel ymateb i gynnydd sydyn mewn achosion o’r coronafeirws er mwyn diogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws.
Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r rheoliadau erbyn 24 Medi i sicrhau eu bod yn gymesur. Mae’r adolygiad hwnnw wedi cael ei gynnal.
Mae achosion o’r coronafeirws wedi syrthio yn gyson ers i’r cyfyngiadau gael eu cyflwyno ym mwrdeistref Caerffili bythefnos yn ôl. Hoffwn ddiolch i’r trigolion am eu gwaith caled a’u hymdrechion i reoli lledaeniad y feirws heintus hwn. Mae’r lefelau cydymffurfio â’r cyfyngiadau wedi bod yn uchel iawn.
Fodd bynnag, mae llawr o waith gennym i’w wneud eto. Mae’r cyfraddau heintio yn parhau i fod yn uchel yn y fwrdeistref – maent yn uwch na’r lefelau yr hoffem eu gweld. Ar ôl trafod y sefyllfa gyda’r awdurdod lleol, rydym wedi penderfynu cadw’r cyfyngiadau yn eu lle am saith niwrnod arall o leiaf.
Os gwelir gostyngiad pellach yn nifer yr achosion yn y fwrdeistref, y gobaith fyddai gallu ystyried llacio’r cyfyngiadau lleol.
Yn y cyfamser, bydd y cyfyngiadau canlynol yn parhau yn eu lle ar gyfer pob un sy’n byw yn ardal bwrdeistref Caerffili:
- Ni fydd hawl gan bobl gael mynediad i ardal Cyngor Bwrdeistref Caerffili na gadael yr ardal heb esgus rhesymol.
- Bydd yn ofynnol i bob un dros 11 oed wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau dan do sydd ar agor i’r cyhoedd, fel siopau, yn ogystal ag ar drafnidiaeth gyhoeddus – fel sy’n wir yng ngweddill Cymru.
- Yn yr awyr agored yn unig y gall pobl gyfarfod am y tro. Ni fydd pobl yn gallu cyfarfod ag aelodau eraill o’u haelwyd estynedig dan do na chreu aelwyd estynedig (sy’n cael ei galw hefyd yn “swigen”).
Daeth cyfyngiadau newydd, ar gyfer Cymru gyfan, sy’n golygu na cheir gwerthu alcohol ar ôl 10pm i rym am 6pm heddiw. Bydd hefyd rhaid i fusnesau lletygarwch sy’n gwerthu alcohol ddarparu gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig.
Hoffwn annog pobl sy’n byw ym mwrdeistref Caerffili i barhau i ddilyn y rheolau hyn. Dros y bythefnos ddiwethaf rydych chi, drigolion bwrdeistref Caerffili, wedi gwneud cryn wahaniaeth i ledaeniad y feirws yn yr ardal. Gyda’ch cefnogaeth barhaus chithau, bydd y tueddiad hwn o weld gostyngiad yn nifer yr achosion yn parhau.