Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal adolygiad o'r mesurau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad tair wythnos diweddaraf i fod i gael ei gynnal erbyn 20 Ionawr. 

Ers i'r amrywiolyn Omicron ddod i'r amlwg, rydym wedi cynnal adolygiad o'r rheoliadau bob wythnos. Mae achosion o’r coronafeirws ledled Cymru – sy'n cael eu mesur yn ôl profion PCR positif – yn gymharol sefydlog yn dilyn gostyngiadau dros yr wythnosau diwethaf. Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Heintiadau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i ddangos gostyngiad yn nifer y bobl sy'n profi'n bositif am y coronafeirws. Yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 22 Ionawr, profodd 3.3% o bobl yng Nghymru yn bositif am y coronafeirws, o'i gymharu â 3.7% yr wythnos flaenorol.

Mae nifer y cleifion Covid-19 yn yr ysbyty yn parhau i ostwng, yn ogystal â nifer y cleifion cysylltiedig â Covid-19 mewn gofal critigol. 

 

Mae'r ffigurau hyn yn awgrymu bod arwyddion cynnar o achosion coronafeirws yn sefydlogi yng Nghymru, er ein bod wedi gweld cynnydd bach yn y trosglwyddiad ymhlith plant iau ac oedolion ifanc wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i'r ysgol.

Yn sgil y tueddiadau cyffredinol, byddwn yn cwblhau ein cynllun i symud i Lefel Rhybudd Sero o yfory ymlaen (28 Ionawr).

Yng Nghymru, mae symud i Lefel Rhybudd Sero ar gyfer pob gweithgarwch dan do yn golygu:

  • Gall clybiau nos ailagor.
  • Bydd y gofyniad cyffredinol o gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sy'n agored i'r cyhoedd a phob gweithle yn cael ei ddileu.
  • Ni fydd y rheol chwe pherson yn berthnasol mwyach wrth ymgynnull mewn safleoedd a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
  • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig a chasglu manylion cyswllt mwyach
  • Bydd gweithio gartref yn dal i fod yn rhan o gyngor Llywodraeth Cymru ond ni fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol mwyach

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno i leihau'r cyfnod hunanynysu o saith diwrnod i bum diwrnod llawn i bawb sy'n profi'n bositif am Covid-19. Dylent gymryd dau brawf llif ochrol 24 awr ar wahân ar ddiwrnod pump a chwech i weld a ydynt yn parhau i fod yn heintus ac yn gallu trosglwyddo Covid-19 i eraill. I gydnabod y cyfnod ynysu byrrach, bydd taliad y cynllun cymorth hunanynysu yn dychwelyd i'r gyfradd wreiddiol o £500 i bawb sy'n gymwys ac yn colli incwm o ganlyniad i hunan-ynysu.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn cael ei gynnal erbyn 10 Chwefror, pan fydd Llywodraeth Cymru’n adolygu’r holl fesurau lefel rhybudd sero fydd yn parhau mewn grym.

Dyma’r mesurau sy’n parhau:

  • Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a'i ledaenu a darparu gwybodaeth ar sut i leihau’r risg;
  • Rhaid i bawb barhau i hunanynysu os ydynt yn profi'n bositif am coronafeirws neu os ydynt yn 18 oed neu'n hŷn ac nad ydynt wedi'u brechu'n llawn a’u bod yn gyswllt agos i rywun sydd wedi profi'n bositif;
  • Rhaid i oedolion a phlant 11 oed a throsodd (oni bai eu bod wedi'u heithrio) wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, ac eithrio lleoliadau lletygarwch fel bwytai, tafarndai, caffis neu glybiau nos;
  • Mae angen Pàs Covid er mwyn cael mynediad i ddigwyddiadau dan do ac awyr agored mawr, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.

Rydym wedi gallu codi'r mesurau amddiffyn hyn diolch i ymdrechion pawb yng Nghymru a'n hymgyrch frechu, gan gynnwys y brechlyn atgyfnerthu. Brechu yw'r math gorau o amddiffyniad rhag coronafeirws ac rydym yn parhau i annog pawb i gael eu brechu – boed hynny'n ddos gyntaf, yn ail ddos neu'n frechlyn atgyfnerthu. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru.

Mae'n bwysig bod pawb yn parhau i ddilyn y rheolau a'r canllawiau i helpu i gadw eu hunain a’u hanwyliaid yn ddiogel. Gyda’n gilydd gallwn gadw Cymru’n ddiogel.