Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyfyngiadau coronafeirws gael eu hadolygu bob tair wythnos. Cynhaliwyd yr adolygiad mwyaf diweddar ar 18 Tachwedd.

Yn gyffredinol, mae nifer yr achosion o COVID-19 wedi gostwng ar draws Cymru ers i’r rheoliadau gael eu hadolygu ddiwethaf, ond maent yn parhau’n uchel gydag ychydig dan 500 o achosion fesul 100,000.

Mae’r brechlyn wedi helpu i wanhau’r cysylltiad rhwng heintiau, salwch difrifol a derbyniadau i’r ysbyty, ond nid yw wedi torri’r cysylltiad. Os byddwn yn parhau i weld cyfraddau uchel o’r haint yn y gymuned a lefelau trosglwyddo uchel, rydym yn debygol o weld pwysau cynyddol ar y GIG yn sgil y pandemig a bydd angen i fwy o bobl gael gofal yn yr ysbyty. Yn gefndir i hyn oll mae’r pwysau cynyddol o ran achosion brys ac argyfwng ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn debyg i’r pwysau a welir fel arfer yn ystod cyfnodau mwyaf anodd y gaeaf.

Wrth ystyried y dystiolaeth hon, mae’r Cabinet wedi cytuno i beidio â gwneud unrhyw newidiadau i’r rheoliadau yn y cylch tair wythnos hwn. Bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero, ac ni fyddwn yn ymestyn y defnydd o’r Pàs COVID i leoliadau lletygarwch ar hyn o bryd.

Nid yw’r pandemig wedi diflannu. Mae pedwaredd ton yn symud ar draws Ewrop ac mae nifer o wledydd yn cyflwyno cyfyngiadau newydd i reoli lledaeniad y coronafeirws.

Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu Cymru a’i chadw ar agor.

Mae hyn yn golygu cadw’r opsiwn i ymestyn y defnydd o’r Pàs COVID mewn lleoliadau lletygarwch y gaeaf hwn, os bydd nifer yr achosion, a’r pwysau ar y GIG, yn cynyddu.

Byddwn yn parhau i drafod y ffordd orau o wneud hyn gyda’r sector, i helpu barrau, bwytai a chaffis i aros ar agor ac i barhau i fasnachu drwy gyfnod prysur yr ŵyl, pe bai’n briodol cymryd y cam hwn.

Y brechlyn yw’r ffordd orau o’n hamddiffyn yn erbyn y feirws o hyd. Rydym yn parhau i annog pobl i dderbyn y cynnig a chael y brechlyn a’r pigiad atgyfnerthu.

Hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrechion i helpu i leihau cyfraddau’r coronafeirws ar draws Cymru dros y tair wythnos ddiwethaf – mae angen inni barhau â’r gwaith hwn wrth inni gynllunio ar gyfer y Nadolig. Mae angen inni ymdrechu gyda’n gilydd er mwyn inni ddiogelu Cymru a’i chadw ar agor.