Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ar 20 Medi, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth adolygiad o'r bôn i'r brig o reilffyrdd Prydain, a fyddai’n cael ei arwain gan Keith Williams, cyn-Brif Weithredwr British Airways, ac Is-Gadeirydd John Lewis a Phartneriaid erbyn hyn.  Bydd Keith Williams yn cael cymorth gan banel allanol ac mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn ar argymhellion yr adolygiad cyn diwedd 2019.  Rwyf yn falch bod y panel allanol yn cynnwys Margaret Llewellyn, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghori Network Rail ar gyfer Llwybr Cymru.

Rwyf yn croesawu’r adolygiad hwn.  Er ein bod wedi llwyddo i gymryd cam sylweddol ymlaen wrth ddyfarnu contract newydd rheilffordd Cymru a'r Gororau, mae’r cyd-destun ar gyfer darparu rheilffyrdd yng Nghymru yn gymhleth ac yn rhanedig, ac nid oes digon o gyllid yn cael ei neilltuo i wneud hynny.  Rwyf wedi siarad â Keith Williams heddiw er mwyn disgrifio safbwynt Llywodraeth Cymru.

Cafodd y setliad rheilffyrdd presennol ei ddylunio cyn dyfodiad datganoli.  Er bod rhai ymdrechion wedi’u gwneud i’w esblygu, mae’r setliad presennol yn dal yn adlewyrchu'r cyfnod pan gafodd ei lunio.  20 mlynedd ers datganoli, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn San Steffan sy’n dal â rheolaeth dros y rheilffyrdd yng Nghymru yn y pen draw.  Mae’r setliad datganoli diffygiol hwn yn sail i lawer o’r problemau yng nghyswllt ein rheilffyrdd.

Dim ond yng nghyswllt y contract gwasanaethau trên Cymru a’r Gororau y mae gennym swyddogaethau statudol, sy’n golygu bod gwasanaethau gan dri o sefydliadau wedi'u breinio Llywodraeth y DU yn gweithredu yng Nghymru y tu hwnt i’n rheolaeth.  Er bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth lais ynghylch gweithredu gwasanaethau Cymru a’r Gororau sy’n cael eu gweithredu yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod rhoi cyd-drefniant ar waith – sy’n golygu nad oes gennym lais ar fanylion na gweithrediad y tri sefydliad wedi'i freinio arall sy’n gweithredu yng Nghymru.  Er mwyn rhoi enghraifft, o blith 12 dinas fwyaf y DU, Caerdydd sydd â’r cysylltiad rheilffyrdd gwaethaf â’r dinasoedd eraill hyn.

Er ein bod ni, yn yr un modd â Llywodraethau’r DU a'r Alban, yn “awdurdod breinio”, a’r flwyddyn nesaf byddwn yn dod yn weithredwr/perchennog trac, does gan Lywodraeth Cymru ddim swyddogaeth o ran pennu'r cylch gwaith na phenodi Cyfarwyddwyr y rheoleiddiwr rheilffyrdd – y Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd.  Fodd bynnag, mae gan Gymru’r swyddogaeth hon mewn perthynas â rheoleiddwyr eraill y DU.

Hefyd, yn hollbwysig, ac yn wahanol i’r Alban, nid oes gennym gyllid na rheolaeth deg mewn perthynas â seilwaith rheilffyrdd Cymru.  Mae hyn i gyd yn ein rhwystro ni rhag datblygu'r gwasanaethau rheilffyrdd y mae eu hangen ar Gymru fel rhan o system drafnidiaeth ehangach sy’n gwbl integredig, er mwyn darparu’n effeithiol ar gyfer y teithiau o un pen i’r llall y mae pobl angen ac eisiau eu gwneud.

Yn ogystal â'r materion hyn yng nghyswllt datganoli, mae’r rhan fwyaf o gerbydau Prydain yn nwylo’r tri chwmni gweithredu cerbydau sy’n eiddo preifat. Mae’r rhain yn blaenoriaethu eu buddiannau masnachol eu hunain ac nid ydynt yn ymateb i anghenion lleol neu gysylltiedig â gwasanaethau.

Rydym yn cydnabod bod angen i bobl a nwyddau deithio rhwng Cymru a gweddill y DU. Mae teithio’n ddidrafferth rhwng Cymru a gweddill y DU yn hanfodol, felly ni allwn ymdopi heb gael rhyw fath o weithredwr systemau rheilffyrdd cenedlaethol yn y DU.

Rwyf yn galw ar Adolygiad Williams i nodi llwybr clir a fydd yn golygu bod Cymru yn cael mwy o lais wrth bennu gwasanaethau rheilffyrdd, wrth reoli a datblygu seilwaith gyda setliad cyllido teg, ac wrth sefydlu swyddogaethau rheoleiddio/i weithredwyr systemau sy’n cydnabod amrywiaeth datganoli yn y DU, gan gynnal rheilffordd genedlaethol sydd o fudd i bob rhan o Brydain. 

Rwyf hefyd yn galw arno i fynd i'r afael â’r diffyg buddsoddi parhaus yn ein seilwaith rheilffyrdd.   Er bod Llwybr Network Rail yng Nghymru yn gyfrifol am 11% o hyd y llwybr, 11% o’r gorsafoedd a 20% o’r croesfannau ledled Cymru a Lloegr, dim ond 2% o’r arian a ddefnyddiwyd i wella'r rhwydwaith yng Nghymru a Lloegr sydd wedi cael ei wario yng Nghymru ers 2011 ar gyfartaledd.  Fe ddylem ni fod wedi cael dros £1 biliwn yn braf yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn unig. Mae hyn yn egluro pam mae llawer o gyflymderau rheilffyrdd yng Nghymru yn is na'r cyfartaledd ar gyfer Prydain, pam mae gennym gapasiti gorsafoedd a rhwydweithiau annigonol mewn rhai ardaloedd allweddol, pam mae cyfyngiadau ar gapasiti yn effeithio ar ein gallu i gyflenwi gorsafoedd a gwasanaethau newydd – yn enwedig ar brif reilffyrdd, pam mae cyfyngiadau annerbyniol ar y llwythi y gallwn eu cludo ar y rheilffyrdd, a pham mae cyfran sylweddol is o bobl yn teithio i’r gwaith ar y trên yng Nghymru o gymharu â gweddill Prydain. 

Ni ellir parhau i ddefnyddio dull Llywodraeth y DU o ddyrannu arian, sy’n rhoi blaenoriaeth i ardaloedd o’r wlad lle caiff rheilffyrdd eu defnyddio ar lefel uwch, yn aml oherwydd bod arian wedi’i fuddsoddi yn yr ardaloedd hyn yn y gorffennol.  Er gwaethaf yr addewidion a wnaed pan gafodd y cynllun i drydaneiddio rheilffordd Abertawe ei ganslo, nid yw Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ariannu’r gwaith o gyflawni unrhyw gynlluniau gwella yng Nghymru.  Mae gennym anghenion o ran cysylltiad rheilffyrdd sydd heb eu diwallu ledled ein hardaloedd ac nid ydym yn cael cyfran deg o’r cyllid, sy’n effeithio ar ein gallu i gyflawni ein hamcanion o ran datblygiad economaidd a gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Yn amlwg, mae angen gwneud newidiadau sylweddol ac rwyf yn galw am i’r rhain gael eu cyflawni yn sgil yr adolygiad hwn.  Yn benodol, mae angen y canlynol arnom:

  • Trosglwyddo perchnogaeth seilwaith rheilffyrdd Cymru (yn unol ag argymhelliad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru) yn dilyn asesiad cynhwysfawr o’i amodau
  • Setliad cyllidol teg sy’n ymestyn i welliannau sy’n seiliedig yn fras ar yr un fethodoleg â’r un a ddefnyddir yn yr Alban
  • Gallu dewis o blith ystod o fodelau darparu gwasanaeth i deithwyr trenau yng Nghymru, gan gynnwys rheoli traciau a threnau mewn modd mwy integredig
  • Diddymu’r mesurau sy’n gwahardd gweithredwyr yn y sector cyhoeddus rhag cynnig am wasanaethau i deithwyr trên a’u gweithredu mewn perthynas â chytundebau breinio Cymru
  • Ei gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cytuno ar fanyleb a dynodiad ar gyfer gwasanaethau i deithwyr trên sy’n gweithredu yng Nghymru o dan reolaeth eraill
  • Rhoi pŵer i Weinidogion Cymru weithredu, pennu a dynodi unrhyw wasanaethau (trawsffiniol) o Gymru i Loegr ar ôl cael caniatâd i wneud hynny drwy brosesau’r diwydiant (heb ganiatâd yr Ysgrifennydd Gwladol)
  • Swyddogaeth lawn yn y gwaith cynllunio a gwneud penderfyniadau mewn perthynas â’r seilwaith a ddefnyddir gan wasanaethau (trawsffiniol) Cymru
  • Trefniadau ar gyfer perchnogi, pennu a rheoli cerbydau sy’n diwallu anghenion Cymru
  • Bod yr holl sefydliadau sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i deithwyr a seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn atebol i Lywodraeth Cymru
  • Mewnbwn ffurfiol ar gyfer Cymru yng ngweithgareddau rheoleiddio'r Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd

Dylid gwneud y newidiadau y mae modd eu gwneud heb ddiwygio'r ddeddfwriaeth neu wneud asesiad llawn o’r seilwaith yn fuan ar ôl yr adolygiad.  Er mwyn ein symud tuag at drefniant mwy boddhaol ar gyfer y seilwaith tra mae’r gwaith asesu yn mynd rhagddo, byddaf yn pwyso i gael trefniant sy’n caniatáu i ni reoli'r ased a’i wella gyda chyllid gan Lywodraeth y DU.  Rydym ni mewn lle unigryw i wneud hyn yn sgil sefydlu Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar.

Mae’r adolygiad hwn yn gyfle i ddiwygio’r rheilffyrdd a chreu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig y mae ei angen ar Gymru.  Ni ddylid colli’r cyfle hwn.  Gallai ein rheilffyrdd fod yn un o’n hasedau mwyaf gwerthfawr o ran yr economi a chymdeithas, a chanddynt botensial i wneud cyfraniad mwy i fywydau pobl, cymunedau, yr amgylchedd a’r economi yng Nghymru.