Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal adolygiad o'r mesurau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad tair wythnos diweddaraf i fod i gael ei gynnal erbyn 10 Chwefror.

Mae’n ymddangos bod cyfraddau trosglwyddo yn y gymuned yn gostwng ond mae cyfraddau cyffredinol yn parhau i fod yn uchel. Yn seiliedig ar brofion PCR positif mae mwy na 410 o achosion am bob 100,000 o bobl. Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Heintiadau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn awgrymu bod nifer yr achosion yn lleihau.

Mae’r pandemig yn parhau i roi pwysau ar y GIG, gyda mwy na 1,110 o gleifion COVID-19 yn yr ysbytai. Fodd bynnag, bu lleihad yn nifer y cleifion newydd sydd wedi’u derbyn i’r ysbytai ac mae mwy o bobl yn cael eu brechu – ac yn cael y brechlyn atgyfnerthu – bob wythnos, diolch i ymdrech aruthrol ein timau brechu ar hyd a lled y wlad.

Mae coronafeirws yn parhau i ledaenu yng Nghymru – ac yn y DU. Bydd Cymru yn aros ar lefel rhybudd sero ond gallwn ddechrau llacio rhai o’r cyfyngiadau sydd ar waith yn ofalus ac yn raddol gan nad yw’r rhain bellach yn gymesur â lefel y risg rydym yn ei hwynebu.

Felly rydym yn bwriadu dechrau codi’r cyfyngiadau, gan ddechrau gyda’r Pàs COVID domestig a gorchuddion wyneb, dros y tair wythnos nesaf, gan ystyried y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd.

O 18 Chwefror, ni fydd y lleoliadau a oedd gynt yn gorfod cadw at y rheoliadau Pàs COVID domestig – digwyddiadau mawr dan do ac awyr agored, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd – bellach yn gorfod cyfyngu ar fynediad i unigolion sydd wedi’u brechu neu unigolion sydd wedi cael prawf negatif yn unig (neu unigolion sydd wedi’u heithrio ar sail feddygol). Bydd canllawiau yn nodi y caiff lleoliadau ddewis defnyddio’r Pàs COVID domestig ar sail wirfoddol fel rhan o’u hasesiad risg a mesurau rhesymol ar gyfer coronafeirws.

Bydd y Pàs COVID rhyngwladol yn parhau i fod yn allweddol i drefniadau ar gyfer teithio rhyngwladol diogelach. Bydd angen i deithwyr wirio’r rheolau ar gyfer cael mynediad i’r gwledydd perthnasol, gan gynnwys unrhyw ofynion gwahanol ar gyfer plant.

O 28 Chwefror, ni fydd yn ofynnol i oedolion a phlant 11 oed a hŷn wisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o leoliadau o dan do. Yr eithriadau i hyn fydd lleoliadau iechyd a gofal, pob lleoliad manwerthu a chludiant cyhoeddus. Bydd ein canllawiau yn parhau i argymell y dylid gwisgo gorchuddion wyneb.

Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllawiau heddiw i nodi’n glir y caiff oedolion dynnu eu gorchuddion wyneb pan fyddant yn ymwneud â babanod a phlant bychain mewn grwpiau i fabanod a phlant bychain.

Yn dilyn yr adolygiad sydd i’w gynnal erbyn 3 Mawrth, rydym yn bwriadu cyhoeddi cynllun pontio ar gyfer byw gyda coronafeirws pan fydd yr holl gyfyngiadau cyfreithiol a wnaed o dan y ddeddfwriaeth diogelu iechyd brys wedi’u codi.

Yn dilyn yr adolygiad tair wythnos sydd i’w gynnal erbyn 24 Mawrth, yn ddibynnol ar y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd ar y pryd, rydym yn gobeithio dileu’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb yng ngweddill y lleoliadau cyhoeddus o dan do ac ar gludiant cyhoeddus. Dylai busnesau a sefydliadau gynnal asesiadau risg penodol ar gyfer coronafeirws a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risgiau. Bydd cyflogwyr yn parhau i orfod cadw at gyfreithiau eraill, fel Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, i gadw staff a’r cyhoedd yn ddiogel.

Nid yw’r pandemig ar ben.  Dyma pam rydym yn cadw rhai mesurau diogelu pwysig. Mae hyn yn cynnwys gwisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal, ar gludiant cyhoeddus ac mewn siopau, y gofynion hunanynysu ac asesiadau risg a mesurau rhesymol penodol ar gyfer coronafeirws mewn safleoedd a reoleiddir.

Gyda niferoedd cynyddol o bobl yn cael eu brechu, a diolch i ymdrechion pawb yng Nghymru, gallwn edrych ymlaen at ddyddiau gwell.