Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae Cymru wedi bod yng nghefn y ciw yn rhy hir wrth i Lywodraeth y DU fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd. Dyma faes sydd ond wedi cael ei ddatganoli’n rhannol i Gymru, a hyd yn ddiweddar iawn Llywodraeth y DU oedd yn gwbl gyfrifol amdano. Nid yw’r buddsoddiad yn ein rhwydwaith rheilffyrdd yn agos at y lefelau mae ein poblogaeth a’n cyfran o seilwaith y rhwydwaith yn ei haeddu.
Rydym hefyd wedi dioddef o ganlyniad i agwedd rhy ganolog y DU at hedfan. Roedd hyn yn rhoi ardaloedd llai poblog y DU dan anfantais cyn Covid ac mae bellach yn fygythiad difrodol i gysylltedd rhanbarthol ym mhob man.
O ganlyniad i’r gyfres hon o fethiannau gan Lywodraeth y DU i roi sylw teg i’w chyfrifoldebau cysylltedd yng Nghymru rwyf yn gobeithio y bydd y ffaith bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth wedi penodi Syr Peter Hendy i gynnal Adolygiad o Gysylltedd Llywodraeth y DU yn helpu i arwain at newid sylweddol yn ei hagwedd. Rwyf i, ynghyd â’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, wedi bod yn glir ynghylch beth ddylai’r adolygiad hwn ganolbwyntio arno a lle y dylai barchu’r setliad datganoli.
Bydd Llwybr Newydd – Strategaeth Trafnidiaeth ddrafft newydd Cymru – yn golygu ei bod yn rhaid inni ddefnyddio’r rheilffyrdd yn benodol yn well. Gallai’r adolygiad hwn ein galluogi i wneud hynny, os caiff ei lunio yn y ffordd iawn, os bydd yn ein helpu i roi sylw i’r tanfuddsoddi hanesyddol rydym wedi’i ddioddef ac os bydd yn parchu cyfrifoldebau democrataidd Llywodraeth Cymru.
Rwyf wedi siarad â Syr Peter yn ddiweddar ac wedi dweud wrtho’n glir am y materion hyn.
Eglurais y byddem yn cefnogi adolygiad os yw’n golygu bod Llywodraeth y DU yn cyllido ei chyfrifoldebau presennol i Gymru yn ddigonol mewn meysydd fel seilwaith rheilffyrdd a hedfan. Fodd bynnag, ni fydd y Llywodraeth hon yn cefnogi unrhyw adolygiad sy’n ceisio tanseilio neu sathru ar y setliad datganoli cyfredol. Rhaid i’r adolygiad osgoi sylwadau a chynigion ar faterion fel y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd datganoledig, sy’n gyfrifoldeb clir i Lywodraeth Cymru a’r Senedd.
Gyda’m cyd-Weinidogion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon cafodd y llinell goch hon ei chyfleu mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.
Pan siaredais â Syr Peter, tanlinellais fod angen i Lywodraeth y DU wireddu ei haddewidion na fyddai’r un geiniog yn llai yn cael ei gwario yng Nghymru o ganlyniad i adael yr UE, ac mae hyn yr un mor berthnasol i Drafnidiaeth. Roedd gan Lywodraeth y DU ymrwymiad i wella’r Rhwydwaith Traws-Ewropeaidd tra’r oedd y DU yn aelod o’r UE – a oedd er enghraifft yn ei hymrwymo i drydaneiddio’r prif reilffyrdd yng ngogledd a de Cymru erbyn 2030. Ers nifer o flynyddoedd bellach mae Llywodraeth y DU wedi methu nodi sut y byddai’n cyflawni’r ymrwymiad hwn.
Ar sail yr ymrwymiadau sy’n hysbys ar gyfer y cyfnod rhwng 2019 a 2029, rydym yn amcangyfrif diffygion o hyd at £5.1bn dros y cyfnod hwn.
Gyda golwg ar y dyfodol, mae angen inni gofio na fydd Cymru yn elwa o unrhyw wasanaethau HS2 uniongyrchol. Yn ôl ffigurau HS2 ei hun, er gwaethaf rhai manteision i ogledd ddwyrain Cymru, at ei gilydd bydd HS2 yn achosi £150m o ddifrod i economi Cymru yn flynyddol. Byddwn yn clywed ddydd Mercher pa gyfran y bydd Cymru yn ei derbyn o’r £100 biliwn. Bydd yr Alban, a fydd yn cael manteision uniongyrchol o ganlyniad i’r prosiect, yn cael cyfran o’r £100Bn. Byddai cyfran deg yn golygu ein bod yn gallu uwchraddio rheilffyrdd Cymru a dal i fyny â’r ardaloedd eraill yn y DU sy’n elwa o seilwaith gwell a gwelliannau yn sgil hynny yn y ffordd cânt eu gweld fel ardaloedd i fuddsoddi ynddynt.
Dim ond £60m mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’w wario ar wella rheilffyrdd Cymru dros y 10 mlynedd nesaf. Petaem yn cael cyfran deg, byddem yn cael dros £3bn. Rydym yn cael ein twyllo’n gyson. Rwyf wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ‘Buddsoddiad blaenorol i wella’r seilwaith rheilffyrdd’ sy’n rhoi gwybod am yr esgeulustod cyllido hwn rwyf eisoes wedi sôn amdano gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol y DU sy’n cynrychioli etholaethau yng Nghymru.
Mae’r straen sydd ar y seilwaith mewn ardaloedd o Gymru a'r Gororau yn brawf o hyd a lled y diffyg buddsoddiad. Yn ddiau mae hyn wedi effeithio ar ein cynhyrchiant a’n perfformiad economaidd yng Nghymru. Mae hefyd wedi cyfrannu at dagfeydd trafnidiaeth eraill, fel sy’n cael ei ddangos yn glir yn adroddiad dros dro Comisiwn Burns ar dagfeydd o amgylch Twnelau Bryn-glas.
Wrth wraidd y broblem hon mae diffyg sylfaenol yn y modelau sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant i asesu buddsoddiad. Mae’r fframwaith dadansoddol y mae Llywodraeth y DU yn dibynnu arno i gynhyrchu achosion busnes ac asesiadau gwerth am arian ynghyd â’r broses blaenoriaethu cynlluniau yn ymgorffori ac yn gwaethygu tanfuddsoddi systematig. Mae rhagolygon y diwydiant wedi goramcangyfrif y galw am gynlluniau yn Llundain yn sylweddol ac wedi tanamcangyfrif y galw am gynlluniau mewn ardaloedd eraill o’r DU, gan gynnwys yma yng Nghymru. Mae llwyddiant ailagor rheilffordd Glynebwy gan Lywodraeth Cymru – rhywbeth roedd modelau trafnidiaeth traddodiadol wedi methu ei ragweld – yn brawf amlwg bod angen diwygio a diweddaru modelau trafnidiaeth ceidwadol cyfredol.
Rwyf wedi gofyn i Syr Peter edrych ar hyn.
Ac ystyried bod cyllid i wella’r rheilffyrdd yng Nghymru wedi cael ei leihau’n gyson, nid oes gennym lawer o hyder y bydd y setliad presennol yn cyflawni ar gyfer Cymru a'i chymunedau. Mae'r pwerau cyllido seilwaith ychwanegol sydd ym Mil y Farchnad Fewnol yn fygythiad sylfaenol i ddatganoli a’i gynlluniau.
Mae problem amlwg yma ac rwyf wedi trafod hon â Syr Peter. Mae ardaloedd eraill o’r DU wedi cael buddsoddiad i wella eu seilwaith ar lefel nad ydym wedi’i gweld yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU ei hun wedi siarad am ‘degwch’ ar draws y DU. Mae’r sefyllfa hon o danfuddsoddi yn y rheilffyrdd yng Nghymru, ynghyd â’r ffordd ddarniog sy’n cael ei defnyddio i gynllunio seilwaith, yn golygu na fydd Llywodraeth y DU yn cyflawni ei huchelgeisiau ei hun.
Rwyf i, a chydweithwyr ar draws y Senedd, yn credu mai dim ond drwy ddatganoli pwerau seilwaith rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru gyda setliad cyllido llawn a theg y bydd modd mynd i’r afael â’r sefyllfa hon.
Yn y cyfamser a chyn unrhyw newid mawr o’r fath, rwyf hefyd wedi cyhoeddi dogfen ‘Gofynion o ran gwella prif linellau rheilffordd’ sy’n tynnu sylw at y ffordd y gall buddsoddiad strategol ym mhrif reilffyrdd gogledd a de Cymru, fel rhan o systemau Metro, helpu i fynd i'r afael â rhai o’r problemau rwyf wedi sôn amdanynt heddiw.
Wrth feddwl am hedfan mae Llywodraeth y DU hefyd wedi methu â chefnogi pobl a busnesau Cymru. Mae'r polisi presennol yn ffafrio meysydd awyr masnachol mawr yn Lloegr. Yn wahanol i rannau eraill o Ewrop, cyn ac yn ystod argyfwng Covid, mae Llywodraeth y DU wedi gwahardd cymorth ariannol ar gyfer diogelwch a diogelwch safleoedd – mae baich y gost ar feysydd awyr llai yn gallu bod cyn uched â 30% o’u costau gweithredu. Mae hwn yn ddewis Cymorth Gwladwriaethol sydd ar gael nawr, y mae Llywodraeth y DU wedi’i wahardd. Wrth ystyried hyn gyda’r penderfyniad i beidio â datganoli Toll Teithwyr Awyr, y penderfyniad i beidio ag hyd yn oed ystyried coridorau awyr sy’n cael cyllid cyhoeddus rhwng Maes Awyr Caerdydd ac unrhyw le yn y DU ar wahân i Lundain, rydym yn gweld darlun arall o esgeulustod a diffyg diddordeb yng Nghymru a rhanbarthau’r DU.
Rwyf yn siŵr y bydd Syr Peter yn gwneud gwaith ardderchog yn adolygu’r sefyllfa o ran rheilffyrdd a hedfan, ond mae’r ffaith na ofynnwyd iddo gynnwys band eang yn ei gylch gwaith wedi ei lesteirio. Ac ystyried y newidiadau diweddar i batrymau gwaith ac i fywydau pobl, mae hi’n bwysicach nag erioed bod Llywodraeth y DU yn barod i gyflawni'r dyletswyddau mae wedi’u cadw i sicrhau bod pob eiddo yng Nghymru yn gallu cael gafael ar fand eang cyflym iawn o leiaf.
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi Cymru dan anfantais systematig mewn meysydd cysylltedd y mae wedi’u cadw’n ôl – rheilffyrdd, band eang a hedfan. Mae wedi bod yn ystyfnig a gwrthod datganoli’r pwerau hyn. Byddai gwneud hynny’n rhoi’r awenau i eraill sydd â mwy o ddiddordeb ac ymrwymiad i wella pethau. Mae’r Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb yn gyfle i Lywodraeth y DU feddwl am ei hesgeulustod, a chanolbwyntio ar wneud pethau’n iawn.