Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 16 Mehefin, ysgrifennais at yr Aelodau i amlinellu sefyllfa bresennol y rhaglen o Adolygiadau Trefniadau Etholiadol sy’n mynd rhagddi. Nodais hefyd sut yr oeddwn yn bwriadu cyfathrebu fy mhenderfyniadau ynglŷn â phob ardal.

Roedd hyn yn cynnwys fy ymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd drwy ddatganiadau ysgrifenedig. Dyma’r nawfed o’r datganiadau hynny.

Ar 28 Medi, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Sir Gwynedd i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau, mewn perthynas â Sir Gwynedd.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Sir Gwynedd ar gael yma. Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Yn ogystal, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Sir Fynwy i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau, mewn perthynas â Sir Fynwy.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Sir Fynwy ar gael yma. Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu unwaith y byddaf wedi gwneud penderfyniadau ynglŷn ag ardaloedd eraill.

Atodiad

Addasiadau a wnaed i Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol yr ardaloedd canlynol.

Sir Gwynedd

  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw sengl Brithdir, Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltyd. Rhoddir yr enw Saesneg Brithdir a Llanfachreth / Ganllwyd / Llanelltyd i'r ward etholiadol ac enw Cymraeg Brithdir a Llanfachreth / Y Ganllwyd / Llanelltud. Mae hyn yn golygu bod enwau'r wardiau etholiadol yn aros fel ar hyn o bryd.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw ward sengl Cwm-y-Glo. Rhoddir yr enw Saesneg Cwm-y-Glo i'r ward etholiadol a'r enw Cymraeg Cwm-y-glo. Mae hyn yn golygu bod enwau'r wardiau etholiadol yn aros fel ar hyn o bryd.

Sir Fynwy

  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Castell Caldicot a’r enw Saesneg Caldicot Castle. Bydd yr enw Cymraeg Castell Cil-y-coed a’r enw Saesneg Caldicot Castle yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw unigol Caldicot Cross. Bydd yr enw Cymraeg Croes Cil-y-coed a’r enw Saesneg Caldicot Cross yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Porth Sgiwed a’r enw Saesneg Portskewett. Bydd yr enw Cymraeg Porthsgiwed a’r enw Saesneg Portskewett yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw unigol St Arvans. Bydd yr enw Cymraeg Llanarfan a’r enw Saesneg St Arvans yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw ward etholiadol unigol St Kingsmark. Bydd yr enw Cymraeg Llangynfarch a’r enw Saesneg St Kingsmark yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.