Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 16 Mehefin, ysgrifennais at yr Aelodau i amlinellu sefyllfa bresennol y rhaglen o Adolygiadau Trefniadau Etholiadol sy’n mynd rhagddi. Nodais hefyd sut yr oeddwn yn bwriadu cyfathrebu fy mhenderfyniadau ynglŷn â phob ardal.

Roedd hyn yn cynnwys fy ymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd drwy ddatganiadau ysgrifenedig. Dyma’r wythfed o’r datganiadau hynny.

Ar 22 Medi, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Sir Blaenau Gwent i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiad mewn perthynas â Sir Blaenau Gwent.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Sir Blaenau Gwent ar gael yma. Mae’r addasiad i’r argymhellion hyn wedi’i nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Ysgrifennais hefyd at Arweinydd a Phrif Weithredwr Bwrdeistref Sirol Conwy i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau mewn perthynas â Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy ar gael yma. Mae’r addasiad i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Ysgrifennais hefyd at Arweinydd a Phrif Weithredwr Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiad mewn perthynas â Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd ar gael yma. Mae’r addasiad i’r argymhellion hyn wedi’i nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu unwaith y byddaf wedi gwneud penderfyniadau ynglŷn ag ardaloedd eraill.

Atodiad

Addasiadau a wnaed i Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol yr ardaloedd canlynol.

Sir Blaenau Gwent

  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw unigol Beaufort. Bydd yr enw Cymraeg Cendl yn cael ei roi i’r ward etholiadol.

Bwrdeistref Sirol Conwy

  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid cadw’r enw unigol Betws yn Rhos. Bydd yr enw unigol Betws-yn-Rhos yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Craig-y-Don. Bydd yr enw unigol Craig-y-don yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Pensarn Pentre Mawr. Bydd yr enw unigol Pen- sarn Pentre Mawr yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Betws-y-Coed a Threfriw a’r enw Saesneg Betws-y-Coed and Trefriw. Bydd yr enw Cymraeg Betws-y-coed a Threfriw a’r enw Saesneg Betws-y-Coed and Trefriw yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.

Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd

  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid cadw’r enw Cymraeg Y Gaer a’r enw Saesneg Gaer. Bydd yr enw unigol Gaer yn cael ei roi i’r ward etholiadol.