Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 16 Mehefin, ysgrifennais at yr Aelodau i amlinellu sefyllfa bresennol y rhaglen o Adolygiadau Trefniadau Etholiadol sy’n mynd rhagddi. Nodais hefyd sut yr oeddwn yn bwriadu cyfathrebu fy mhenderfyniadau ynglŷn â phob ardal.

Roedd hyn yn cynnwys fy ymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd drwy ddatganiadau ysgrifenedig. Dyma’r cyntaf o’r datganiadau hynny.

Ar 23 Mehefin, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Dinas a Sir Abertawe i gadarnhau penderfyniad y Prif Weinidog i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau mewn perthynas â Dinas a Sir Abertawe, ac i fwrw ymlaen â gwaith i weithredu’r argymhellion hynny drwy orchymyn.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Dinas a Sir Abertawe ar gael yma. Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Yn ogystal, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau mewn perthynas â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac i fwrw ymlaen â gwaith i weithredu’r argymhellion hynny drwy orchymyn.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gael yma. Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu unwaith y byddaf wedi gwneud penderfyniadau ynglŷn ag ardaloedd eraill.

Atodiad

Addasiadau a wnaed i Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol yr ardaloedd canlynol.

Dinas a Sir Abertawe

  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Fairwood yr enw Cymraeg Llwynteg a’r enw Saesneg Fairwood. Bydd yr enw unigol Fairwood yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol St Thomas yr enw Cymraeg Sain Tomos a’r enw Saesneg St Thomas. Bydd yr enw unigol St Thomas yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Townhill yr enw Cymraeg Pen y Graig a’r enw Saesneg Townhill. Bydd yr enw unigol Townhill yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Uplands yr enw Cymraeg Tir Uchel a’r enw Saesneg Uplands. Bydd yr enw unigol Uplands yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol West Cross yr enw Cymraeg Y Groesffordd a’r enw Saesneg West Cross. Bydd yr enw unigol West Cross yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Pontlliw a Thircoed yr enw Cymraeg Pontlliw a Thir-coed a’r enw Saesneg Pontlliw and Tircoed. Bydd yr enw Cymraeg Pont-lliw a Thir-coed a’r enw Saesneg Pontlliw and Tircoed yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.

Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Ynysybwl yr enw unigol Ynysybwl. Bydd yr enw Cymraeg Ynys-y-bwl a’r enw Saesneg Ynysybwl yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Llwynypia yr enw unigol Llwynypia. Bydd yr enw Cymraeg Llwynypia a’r enw Saesneg Llwyn-y-pia yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
  •  Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Cwmbach yr enw unigol Cwmbach. Bydd yr enw Cymraeg Cwm-bach a’r enw Saesneg Cwmbach yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y sillafiad unigol Pont-y-clun ar gyfer y wardiau etholiadol a’r wardiau cymunedol sy’n cynnwys Pont-y-clun yn eu henw. Bydd Pont-y-clun yn cael ei sillafu Pont-y-clun yn Gymraeg a Pontyclun yn Saesneg ar gyfer y wardiau etholiadol a’r wardiau cymunedol sy’n cynnwys yr enw lle hwn.