Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) yw'r corff annibynnol sydd â'r prif swyddogaeth o wneud penderfyniadau ar gyflogau a thaliadau prif gynghorau, cynghorau tref a chymuned, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol i'w haelodau etholedig. Gall hefyd wneud argymhellion ar unrhyw newidiadau arfaethedig i gyflogau prif weithredwyr prif gynghorau a phrif swyddogion tân. Mae rôl, cylch gwaith a phwerau’r Panel wedi eu nodi ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015.
Wrth i’r Panel ddathlu bron i ddeng mlynedd o fodolaeth, comisiynodd y cyn Weinidog Tai a Llywodraeth Leol adolygiad annibynnol. Cynhaliwyd yr adolygiad gan Stephen Hughes rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2021. Ystyriodd yr adolygiad a yw'r Panel yn parhau i gynrychioli gwerth am arian ac a allai fod angen newid ei swyddogaethau a'i weithrediadau mewn unrhyw ffordd yng ngoleuni’r profiad a fagwyd ers ei sefydlu. Diolch i Stephen Hughes am gynnal yr adolygiad, ac i’r holl randdeiliaid a gymerodd ran yn yr adolygiad.
Mae'r adroddiad terfynol a gyhoeddwyd heddiw yn dod i'r casgliad bod y Panel yn gweithio'n galed i ymgysylltu â chynghorwyr a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu ei benderfyniadau. Fodd bynnag, mae'n tynnu sylw at nifer o feysydd lle gellid gwneud gwelliannau, ac mae’n cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer newid. Byddaf yn ystyried yr argymhellion hynny yn awr ac yn eu trafod gyda’r Panel a chyda llywodraeth leol.
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - adolygiad 10 mlynedd