Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ar 2 Medi, rwyf wedi cyflwyno sylwadau i’r achos sydd ar y gweill yn y Goruchaf Lys ynglŷn ag apeliadau Miller a Cherry. Mae sylwadau ysgrifenedig wedi’u cyflwyno ar fy rhan a bydd sylwadau llafar yn cael eu cyflwyno ddydd Iau 19 Medi. Mae ein sylwadau yn adeiladu ar y pwyntiau a godwyd gennym yn y Llys Adrannol, ac maent yn parhau i gynrychioli buddiannau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr achos hwn sydd o bwys cyfansoddiadol. 

Mae fy sylwadau ysgrifenedig wedi’u hamgáu gyda’r datganiad hwn.