Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol
Ddydd Mercher, cafodd Gorchymyn ei wneud yn y Cyfrin Gyngor, ar sail cyngor gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, a oedd yn addoedi’r Senedd o’r ail wythnos eistedd ym mis Medi tan 14 Hydref.
Waeth beth fo’r rhesymau a nodwyd gan y llywodraeth, effaith addoediad mor anarferol o hir fydd cwtogi gallu’r Senedd i drafod a chraffu’n briodol ar delerau ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd; ac amddifadu’r Senedd o’r cyfle i fynegi ei hewyllys drwy ddeddfwriaeth, pe bai’n dymuno gwneud hynny.
Mae cau’r Senedd er mwyn gorfodi Brexit heb gytundeb yn codi cwestiynau ehangach difrifol. Mae goblygiadau arwyddocaol o ran amddiffyn rheol y gyfraith ac egwyddorion cyfansoddiadol sylfaenol y DU.
Mae’n bwysig bod buddiannau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu cynrychioli wrth sicrhau cyfansoddiad sy’n gweithio. Mae deialog rhwng y Cynulliad a Senedd San Steffan a’r ffordd y mae’r Senedd honno yn ystyried sylwadau’r Cynulliad yn rhan allweddol o’r cyfansoddiad a rhaid amddiffyn hynny.
Mae’r Cynulliad wedi cydsynio i Senedd San Steffan ddeddfu mewn meysydd datganoledig, gan ymddiried y byddai’r Senedd yn cael cyfle i basio’r ddeddfwriaeth honno. Drwy gau’r Senedd, mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi rhwystro’r broses honno ac atal y Senedd rhag deddfu ar y telerau ymadael. Gallai hyn olygu y bydd rhaid i’r Cynulliad gyflwyno deddfwriaeth newydd mewn amser cyfyngedig iawn yn y meysydd hanfodol hyn.
Felly dydd Gwener, yn unol â’m pŵer o dan adran 67 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, cyflwynais gais brys am ganiatâd i ymyrryd yn yr achos cyfreithiol sydd wedi’i gychwyn gan Gina Miller. Caniatawyd fy nghais gan yr Uchel Lys, ac rwyf wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig sy’n cefnogi achos Miller, yn tynnu sylw at oblygiadau penderfyniad y llywodraeth o safbwynt Cymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny