Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn llwyddiant “Haf o Hwyl” yn 2021 a’r “Gaeaf Llawn Lles” presennol, rwy’n falch iawn o gyhoeddi y bydd £7m arall ar gael i ariannu Haf o Hwyl yn 2022.

Fel rhan o’n hymateb ar gyfer adferiad rhag COVID, darparwyd cynllun £5m Haf o Hwyl yn 2021 i ddarparu gweithgareddau rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc 0 – 25 oed drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd y gweithgareddau yn cefnogi eu lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol er mwyn helpu i ailgodi eu hyder i integreiddio yn ôl i’r gymuned.

Llwyddodd dros 67,000 i fwynhau amrywiol weithgareddau rhad ac am ddim, o dan do ac awyr agored, gan gynnwys cerddoriaeth, theatr, chwaraeon morol, dringo a weiren wib, gan ddarparu cyfleoedd cynhwysol i gymryd rhan mewn gweithgareddau er mwyn ail ymgysylltu â’r gymdeithas drwy chwarae.

Rydym yn adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy gynnig Haf o Hwyl eto eleni, yn llawn gweithgareddau rhad ac am ddim i helpu pobl ifanc a’u teuluoedd gyda chostau byw cynyddol dros fisoedd yr haf. Rwy’n edrych ymlaen at gael gweld mwy o’n plant a’n pobl ifanc yn mwynhau eu haf yma yng Nghymru.