Jeremy MIles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Hoffwn eich hysbysu bod y Fframweithiau Penderfyniadau Rheoli Heintiau COVID-19 lleol ar gyfer ysgolion a cholegau wedi'u cyhoeddi heddiw.
Mae'r Fframweithiau yn nodi trefniadau ar gyfer darparu dysgu, gan alluogi ysgolion, colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion i deilwra ymyriadau i adlewyrchu risgiau ac amgylchiadau lleol. Mae'n cynnwys mesurau craidd a ddylai fod ar waith, ni waeth beth fo lefel y risg, a mesurau amrywiol y gellir eu teilwra i adlewyrchu lefel y risg a nodwyd. Fe'u cefnogir gan swyddogion iechyd y cyhoedd ac awdurdodau lleol i sicrhau bod mesurau'n briodol i'w hamgylchiadau.
Yr egwyddorion craidd sydd wrth wraidd y Fframweithiau hyn yw:
- galluogi ysgolion i weithredu ar sail 'busnes fel arfer' cyn belled ag y bo'n bosibl
- sicrhau'r deilliannau gorau i bob dysgwr drwy ystyried ei anghenion addysgol a'i les
- rheoli risgiau parhaus COVID-19 mor ddiogel â phosibl fel sy'n cael ei wneud ar gyfer heintiau eraill, a sicrhau bod y camau gweithredu i'w cymryd pe bai achos yn cael ei nodi mewn ysgol neu goleg yn glir.
Dylai'r dull a nodir yn y Fframweithiau gael ei fabwysiadu cyn gynted â phosibl ar ôl dechrau'r tymor, ac erbyn 20 Medi 2021 fan bellaf. Bydd awdurdodau lleol yn trafod gydag ysgolion dros yr wythnosau nesaf sut y bydd y dull hwn yn cael ei ymgorffori yn eu trefniadau gweithredol, gan sicrhau bod staff, dysgwyr a'r gymuned addysg ehangach yn deall y mesurau sydd ar waith yn eu hysgol.
Hoffwn ddiolch i awdurdodau lleol, colegau, cynrychiolwyr undebau llafur a swyddogion iechyd y cyhoedd am ymgysylltu'n bositif gyda ni drwy gydol datblygiad y Fframweithiau. Rydyn ni oll yn rhannu’r un uchelgais i sicrhau y gall dysgwyr barhau i gael mynediad at ystod mor eang â phosibl o brofiadau mewn ffordd sy'n cadw pawb yn ddiogel. Bydd y Fframweithiau yn ein cefnogi i reoli heriau'r pandemig tra’n dal ati i ddysgu.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.