Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i weithio gyda chynrychiolwyr busnes a chyflogwyr ac undebau llafur yn y sector manwerthu i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer sector manwerthu llwyddiannus, cynaliadwy a gwydn sy’n cynnig gwaith teg, diogel a gwerthfawr.

Sefydlwyd Fforwm Manwerthu er mwyn helpu i gyflawni hynny ac mae’r Fforwm wedi datblygu’r datganiad sefyllfa hwn, ac wedi cytuno arno, er mwyn fframio a chyfleu uchelgeisiau’r Fforwm ar gyfer y gwaith hwn. Mae’r datganiad sefyllfa hwn yn egluro beth yw’r sefyllfa heddiw o ran manwerthu; ein huchelgeisiau ar y cyd am newid; a meddyliau gwreiddiol ar sut rydym yn bwriadu cyflawni’r broses honno o drawsnewid i ddyfodol gwell a mwy disglair.

Bydd y Fforwm yn trafod, yn rhoi cyngor ac yn ymgysylltu â’i rwydweithiau ar amrywiaeth o faterion o sydd o ddiddordeb i’r ddwy ochr er mwyn llywio datblygiad gweledigaeth strategol ar gyfer y sector manwerthu gan ystyried sut y gall gwaith manwerthu fod yn fwy teg, diogel a chael ei wobrwyo’n well.

Bydd y Fforwm yn nodi, hyrwyddo a rhannu arferion sy’n cefnogi cyflog ac amodau teg yn y sector manwerthu er mwyn helpu i ‘normaleiddio’ yr ymddygiadau hynny. Bydd hefyd yn gwella cyd-ddealltwriaeth o heriau allweddol sy’n wynebu’r sector manwerthu gan gynnwys problemau o ran sgiliau, recriwtio a chadw; awtomatiaeth; datgarboneiddio a chadwyni cyflenwi. 

Ble ydyn ni nawr?

Y sector manwerthu yw’r cyflogwr sector preifat mwyaf yng Nghymru, gyda 114,000 o gyflogwyr ac yn cyfrif am 6.0% o Werth Ychwanegol Gros Cymru. Mae’r sector manwerthu eisoes yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau a bywoliaeth pobl a chymunedau ledled Cymru. Mae ei werth yn ymestyn y tu hwnt i fudd economaidd.

Mae’r sector manwerthu yn ganolbwynt i lawer o gymunedau lleol, gan ddarparu cysylltiad cymdeithasol hanfodol a’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n cyfrannu at ein llesiant cyfunol. Mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â rôl manwerthwyr annibynnol, bach a’r rhai hynny sy’n gwasanaethu cymunedau gwledig neu ynysig. Am y rhesymau hyn a rhesymau eraill, rydym yn cydnabod lle manwerthu fel rhan o'r economi sylfaenol sy'n diwallu ein hanghenion bob dydd.

Mae’r sector manwerthu yn cyflawni gwaith mewn cyd-destun gweithredol sydd wedi’i farcio gan waith trawsnewid sylweddol, newidiadau ac ansicrwydd parhaus. Ymhlith ysgogiadau sylweddol mae rôl canol trefi sy’n newid, effaith technolegau newydd, sifftiau mewn patrymau ac ymddygiadau defnyddwyr a heriau mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi a phroses recriwtio a chadw’r gweithlu. Yn ogystal â hyn mae her strategol craidd ein hamser:

  1. addasu i’n dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd;
  2. mynd i’r afael â galwadau newid hinsawdd a’r symudiad i Sero Net;
  3. adfer o effaith barhaus pandemig y coronafeirws ac
  4. yr argyfwng costau a phryderon ynghylch prisiau ynni’n cynyddu a diogelwch y cyflenwad.

Mae’r sector manwerthu’n gofyn am amgylchedd cefnogol i wynebu’r heriau hyn, gan gynnwys ystyried newidiadau posibl i’r system Ardrethi Annomestig (Ardrethi Busnes) i gefnogi twf yn y sector manwerthu.

Wrth wynebu heriau’r dyfodol, bydd angen i’r sector manwerthu alw ar dalentau, sgiliau a phrofiadau ei weithlu gan werthfawrogi’r gweithlu hwnnw’n deg. Mae’r Fforwm yn cydnabod pwysigrwydd cyflogwyr, undebau llafur ac eraill sy’n gweithredu i wella cyffredinrwydd gwaith teg ym mhob rhan o’r sector manwerthu ac wrth normaleiddio amodau gweithio teg a diogel.

Wrth i’r sector manwerthu ddarparu amrywiaeth eang o swyddi a gyrfaoedd, mae gwella safon y gwaith yn hanfodol ar gyfer y dyfodol. Bydd mynd i’r afael â chyflogau isel, contractau cyflogaeth ansicr a sicrhau bod llais gweithwyr yn cael ei chlywed wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt yn helpu i sicrhau llesiant gweithwyr manwerthu yn ogystal â chefnogi’r gallu i recriwtio, cadw a datblygu ased gorau’r sector manwerthu, ei weithlu.

Ble yr hoffwn fod?

Mae angen cynllun a gweledigaeth strategol glir arnom ar gyfer y dyfodol a arweinir gan y Llywodraeth, ond cânt eu datblygu gydag ac ar gyfer y sector manwerthu cyfan, ei busnesau, cyflogwyr a’i weithwyr. Mae’r Fforwm yn croesawu’r ymrwymiad i ddatblygu a chyhoeddi gweledigaeth o’r fath yn mis Mai 2022 ac mae’n ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru arni.

Bydd y gweledigaeth  yn seiliedig ar dystiolaeth a bydd ei llywio gan ddeialog ac ymgysylltiad â’r sector yn ystod yr wythnosau sydd i ddod. Bydd angen i’r strategaeth wneud nifer o bethau:

  • bydd yn nodi’r heriau yn y tymor byr, canolig a hir i gefnogi sector manwerthu llwyddiannus, cynaliadwy a gwydn sy’n cyflawni gwaith teg ac effeithlonrwydd ynni gwell.
  • bydd yn gydblethu â gweithgarwch ategol, megis y rhai hynny mewn perthynas ag adfywio canol trefi a dyfodol Ardrethi Busnes yng Nghymru ac yn darparu amserlen ar gyfer cytuno ar gamau gweithredu a fydd yn helpu i wireddu'r weledigaeth strategol.
  • bydd yn sefydlu partneriaeth gymdeithasol fel ffordd o weithio, gan gynnwys helpu i gyflwyno cynrychiolwyr gwyrdd undebau llafur ac adlewyrchu gwerthoedd megis y rhai hynny a nodwyd ym mhedair conglfaen Contract Economaidd Llywodraeth Cymru.

Sut y byddwn yn cyrraedd y man hwnnw?

Byddwn yn cydweithio fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr busnes, cyflogwyr ac undebau llafur, i sicrhau bod y gweledigaeth yn adlewyrchu gweithredoedd sy’n berthnasol, yn briodol ac sy’n cyd-fynd â gweithredoedd ategol mewn meysydd ehangach polisïau sy’n effeithio ar y sector manwerthu, ei weithlu a’i ragolygon yn y dyfodol. Bydd hyn yn gofyn i ni i gyd fod yn agored i syniadau newydd, herio rhai o’n safbwyntiau traddodiadol a meddwl yn ymarferol am newidiadau a all wneud gwahaniaeth.

I gyflogwyr bydd hyn yn golygu gweithredoedd sy’n bodloni eu dymuniad o hybu cystadleurwydd fel bod busnesau’n goroesi ac yn ffynnu. I weithwyr, bydd hyn yn golygu gweithredoedd sy’n ceisio gwella amodau gweithio yn y sector. Nid yw’r cysyniadau hyn yn annibynnol ar ei gilydd, yn sicr, mae cyflawni’r ddau’n allweddol i ddatgloi ein huchelgeisiau ar gyfer y sector. Hoffwn weld y sector manwerthu yn cynnig llwybr gyrfa hyfyw i unigolion er budd y sector cyfan. Bydd angen cymryd camau cydunol i gyflawni hyn:

  • bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gymryd camau gweithredu penodol, ond yn gyfatebol â hyn bydd gan bartneriaid rhanbarthol ac Awdurdodau Lleol rôl i’w chwarae.
  • bydd angen i’r sector ei hun gymryd cyfrifoldeb, bydd pethau y gall gweithwyr ac undebau llafur eu gwneud drostyn nhw eu hunain i wella rhagolygon y sector a’r rheini sy’n gweithio ynddo.
  • bydd pethau yr hoffwn ofyn i Lywodraeth y DU amdanynt, mewn perthynas â materion a gedwir yn ôl ac sy’n effeithio ar fanwerthu ledled y DU. 

Dim ond trwy weithio'r ffordd hon, yn gydweithredol ac ar draws ffiniau y byddwn yn cyflawni’r newid sydd ei angen i gefnogi sector manwerthu a fydd yn mynd o nerth i nerth ac yn gweithio i bawb.