Neidio i'r prif gynnwy

Wrth siarad am bryderon difrifol mewn perthynas ag addasrwydd defnyddio gwersyll milwrol Penalun i gartrefu ceiswyr lloches, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Rwyf am fod yn glir - mae'n annerbyniol bod y Swyddfa Gartref wedi methu dro ar ôl tro â mynd i'r afael â materion difrifol ynghylch yr amodau byw yng ngwersyll milwrol Penalun. Mae Llywodraeth Cymru a darparwyr gwasanaethau lleol wedi rhoi gwybod yn gyson i'r Swyddfa Gartref am y diffygion difrifol yn safon y llety ar gyfer ceiswyr lloches. Hyd yma, mae'r Swyddfa Gartref wedi methu gweithredu mewn unrhyw ffordd ystyrlon.  

Ni ddylid peryglu lles a diogelwch y ceiswyr lloches ar y safle, a rhaid i les y gymuned leol gael ei drin fel blaenoriaeth gan y Swyddfa Gartref.

Rwyf wedi egluro ein pryderon droeon, ac wedi galw ar y Swyddfa Gartref i gau'r safle. Nid yw eu methiant i weithredu'n dderbyniol. Rhaid i'r defnydd o'r gwersyll ddod i ben cyn gynted â phosib. Mae gan y Swyddfa Gartref ddyletswydd i ymyrryd, ac ni ddylai anwybyddu'r pryderon dilys sy'n cael eu codi gan bawb cysylltiedig.

Hyd nes bydd y Swyddfa Gartref yn gweithredu, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid lleol i leihau risgiau a sicrhau'r lles gorau posib i bawb sy'n cael eu heffeithio. Mae Cymru yn Genedl Noddfa. Rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i hynny, a dylai'r Swyddfa Gartref wneud yr un peth.