Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Prif Swyddog Meddygol Cymru ar adolygiad 21 diwrnod COVID-19: 9 Rhagfyr 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Amrywiolyn Delta sy’n parhau’n fwyaf amlwg yn y pandemig COVID-19 yng Nghymru. Ymddengys fod y sefyllfa o ran trosglwyddo yn y gymuned yn sefydlogi gyda chyfraddau achosion yn gostwng yn araf a phwysau uniongyrchol ar y GIG yn lleddfu. Nid yw'n glir eto a fydd y don o haint sy'n ysgubo ar draws Ewrop o'r Dwyrain i'r Gorllewin yn sgil amrywiolyn Delta yn gwrthdroi'r duedd hon sydd i’w gweld yng Nghymru ac yn nghenhedloedd eraill y DU, lle mae’r sefyllfa’n gwella.

Mae’r ffaith bod amrywiolyn Omicron wedi codi’i ben yn destun pryder mawr, ac mae cryn ansicrwydd am yr effaith y mae’n debygol o’i chael; mae gwybodaeth o Dde Affrica, ynghyd â’r ffaith ei fod yn lledaenu’n gyflym ledled y byd, yn awgrymu'n gryf bod ganddo fantais o ran ei drosglwyddadwyedd. Nid oes digon o wybodaeth ar hyn o bryd inni fedru barnu a oes ganddo’r potensial i ddianc rhag effaith brechlynnau, ac rydym yn parhau’n ansicr am y symptomatoleg a graddau'r difrifoldeb clinigol mewn unigolion heintiedig.

Yn y cyd-destun hwn, rwyf o blaid mabwysiadu camau rhagofalus priodol i gyfyngu ar drosglwyddiad yr haint tra bo rhagor o asesiadau epidemiolegol a chlinigol yn cael eu cynnal. Mae'r mesurau rheoli ar y ffiniau, y deddfwyd ar eu cyfer ar sail y DU, yn debygol o leihau nifer y digwyddiadau hadu ac o arwain at oedi cyn i’r amrywiolyn ymsefydlu, er na fydd y mesurau hynny’n ei atal ac er y byddant yn llai effeithiol pan fydd yr amrywiolyn yn cael ei drosglwyddo’n eang yn y gymuned yn y DU. Rwy'n rhagweld twf cyflym o ran trosglwyddo yn y gymuned yn y dyddiau/wythnosau nesaf. Wrth inni fwrw ymlaen â’n rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu (TTP), rhaid inni barhau i weithredu yn yr un ffordd ag a wnaed ar y dechrau un, gan hoelio sylw ar brofi, adnabod, ynysu ac ar waith dwys i olrhain cysylltiadau’r achosion cynnar. Fodd bynnag, mae’r profiad a gafwyd gyda thon Delta yn awgrymu unwaith eto mai dim ond dal yr amrywiolyn yn ôl rhag ymsefydlu yng Nghymru y gwnaiff hynny yn hytrach na’i atal yn gyfan gwbl. Unwaith y bydd yr amrywiolyn newydd yn cael ei drosglwyddo’n eang yn y gymuned, bydd angen inni ystyried newid ffocws ein hadnoddau Profi, Olrhain a Diogelu a chanolbwyntio ar ddiogelu unigolion/lleoliadau sy'n agored i niwed, ac ar reoli achosion cymhleth a brigiadau o achosion.

Mae’n bosibl na fydd amrywiolyn Omicron yn ymateb cystal i frechlynnau, ac na fyddant yn gweithio cystal i’w atal rhag cael ei drosglwyddo ac i atal salwch difrifol, ond mae'n debygol iawn y bydd rhywfaint o effaith amddiffynnol yn parhau. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn mynd ati’n gyflym i weithredu ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a rhoi dosau atgyfnerthu i gohortau iau.

Yn ogystal â'r mesurau hyn, mae ymyriadau nad ydynt yn rhai fferyllol yn parhau i chwarae rôl hanfodol o ran cyfyngu ar drosglwyddiad ar raddfa eang yn y gymuned. Mae cadw pellter cymdeithasol, cyfyngu ar nifer y cysylltiadau personol, gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau gorlawn, ac arfer hylendid anadlol da i gyd yn gweithio ar y cyd i leihau lledaeniad COVID-19, y ffliw a heintiau feirysol anadlol eraill. Hefyd, bydd defnyddio mwy ar Ddyfeisiau Llif Ochrol (LFD) yn y gymuned, a threfnu eu bod ar gael yn fwy eang, o gymorth i ddod o hyd i achosion cadarnhaol yn gyflym ac i atal pobl rhag lledaenu'r feirws yn ddiarwybod. 

Mae’r fantais sydd gan amrywiolyn Omicron o ran ei drosglwyddadwyedd yn golygu y gallai achosi brigiadau o achosion mewn amgylcheddau sy’n lleoliadau caeedig ac rwy'n argymell y dylid ailedrych ar y trefniadau diogelu yn y mannau hynny. Dylai cartrefi gofal sicrhau defnydd systematig o brofion LFD gan ymwelwyr, bod nifer uchel o breswylwyr a staff wedi cael pigiad atgyfnerthu, a dylent gyflwyno cyfyngiadau ar gyfer staff sy'n gweithio mewn sawl lleoliad. Dylai cyfleusterau gofal iechyd ailedrych ar eu trefniadau ar gyfer defnydd rheolaidd o LFD gan staff a sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â chanllawiau diweddaraf y Pwyllgor Atal a Rheoli Heintiau (IPC). 

Nid oes modd eto ragweld y potensial i’r bobl hynny sy’n fwyaf agored i niwed yn glinigol gael eu heintio a’u niweidio, a byddai'n rhy gynnar i ystyried ailgyflwyno camau gwarchod ar gyfer y grwpiau hynny; dylid ystyried unrhyw newid i'r cyngor hwn ar sail y DU gyfan ond dylem gadw’n rhestr gwarchod cleifion rhag ofn y bydd ei hangen.

Wrth i'r sefyllfa o ran amrywiolyn Omicron ddatblygu dros y dyddiau/wythnosau nesaf, efallai y bydd angen dwysáu ymyriadau yn y gymuned gyda'r nod o leihau cyswllt rhwng unigolion mewn cartrefi ac mewn mannau cyhoeddus. Dylem fod yn barod i dynhau’r cyfyngiadau a mabwysiadu’n trefniadau 'COVID brys' os gwelwn gynnydd sylweddol mewn cyfraddau heintio yn y gymuned sy'n arwain at salwch difrifol a bygythiadau i gapasiti’n system iechyd a gofal.

Dr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol Cymru