Datganiad gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Rwyf am ddanfon fy nymuniadau gorau at bawb sy'n derbyn graddau Safon Uwch, UG, Bagloriaeth Cymru a Chymwysterau Galwedigaethol heddiw.
Oherwydd y llu o newidiadau y bu'n rhaid i ni eu gwneud eleni mewn amgylchiadau eithriadol, rydych chi wedi aberthu’n fawr.
Ond mae gennych bob rheswm i fod yn falch o'r holl waith yr ydych wedi ei wneud, a fydd o gymorth i chi, ac o'r penderfyniad yr ydych wedi ei wneud i oresgyn yr amser heriol hwn.
Fel y cyhoeddwyd ddoe, rydym wedi gwarantu na all gradd safon uwch derfynol dysgwr fod yn is na gradd UG. Gall myfyrwyr yng Nghymru, a darpar gyflogwyr a phrifysgolion ledled y DU, fod yn sicr bod eich graddau Safon Uwch yn adlewyrchu eich gwaith ac arholiadau a asesir yn allanol.
Rwy'n gobeithio y cewch chi'r graddau roeddech chi wedi gobeithio amdanyn nhw, a gallwch barhau â'ch taith addysgol yn yr hydref. Er y bydd llawer ohonoch yn fodlon ar eich canlyniadau ac yn llawn cyffro am eich cam nesaf, os na chawsoch yr hyn yr oeddech wedi'i obeithio, mae digon o opsiynau a chyngor ar gael ar Cymru’n Gweithio.
Pob lwc, a dymuniadau gorau at y dyfodol.