Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau newydd gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU ar symptomau'r coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O heddiw, dylai unrhyw unigolyn sy'n datblygu o leiaf un o'r symptomau coronafeirws hyn hunanynysu:

  • peswch parhaus newydd 
  • tymheredd uchel 
  • colli synnwyr blas neu arogl (anosmia) 

Colli eich synnwyr ogleuo, neu newid ynddo, yw anosmia. Mae’n gallu effeithio ar eich synnwyr blasu hefyd gan fod cysylltiad agos rhwng y ddau.

Mae’r data a’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ynghylch COVID-19 wedi bod yn cael eu monitro’n agos gennym. Ar ôl ystyried hyn yn drylwyr, rydym bellach yn ddigon hyderus i argymell y mesur newydd hwn.

Dylai’r bobl eraill sy’n byw yng nghartref yr unigolyn hunanynysu hefyd am 14 diwrnod, yn unol â’r canllawiau cyfredol a dylai'r unigolyn aros gartref am 7 diwrnod, neu’n hirach na hynny os oes ganddo symptomau heblaw peswch neu golli’r gallu i ogleuo neu flasu.

Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton 
Prif Swyddog Meddygol Gogledd Iwerddon, Dr Michael McBride 
Prif Swyddog Meddygol yr Alban, Dr Gregor Smith 
Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty