Neidio i'r prif gynnwy

Ar 3 Mehefin, cadarnhaodd y Gweinidog Addysg gynnig Llywodraeth Cymru y dylai ysgolion ailagor i’r holl ddisgyblion ar 29 Mehefin er mwyn ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ cyn gwyliau’r haf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn hyn, gofynnodd undebau llafur sy’n cynrychioli staff cymorth, gan gynnwys cynorthwywyr dysgu, am sicrwydd ar ambell fater. Mae’r trafodaethau wedi parhau dros yr wythnosau diwethaf i ddarparu’r sicrwydd hwnnw.

Mae’r sgyrsiau wedi canolbwyntio ar dri phrif faes: asesiadau risg; y cynnydd yn y galw am staff glanhau​; a’r profion gwrthgyrff a Profi, Olrhain, Diogelu.

O ran asesiadau risg, mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn falch o fedru darparu’r sicrwydd canlynol i’r undebau llafur.

Craffu ar Asesiadau Risg Ysgolion

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi:

Mae dyletswydd ar gyflogwyr i ymgynghori â’u gweithlu ynghylch materion iechyd a diogelwch, ac fe ddylid eu cynnwys yn yr asesiad ac wrth ddatblygu mesurau rheoli perthnasol. Rhaid i gyflogwyr ymgynghori â’r cynrychiolydd iechyd a diogelwch sy’n cael ei ddewis gan undeb llafur cydnabyddedig neu, os nad oes un yn bodoli, cynrychiolydd wedi’i ddewis gan y staff.

Penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion sy’n gyfrifol am sicrhau asesiadau risg i dynnu sylw at y camau sydd angen eu cymryd i fod yn ddiogel yn yr ysgol. Mae dyletswydd arnynt i ymgynghori â’r cynrychiolydd iechyd a diogelwch i asesu a datblygu’r mesurau rheoli perthnasol. Mae cyfrifoldeb ar y cynrychiolydd iechyd a diogelwch, a ddewisir fel rheol gan undeb llafur cydnabyddedig, i graffu ar yr asesiad risg er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y staff.

Iechyd a lles ein dysgwyr a’n gweithlu addysg sydd flaenaf wrth gynyddu gweithrediadau ein hysgolion. Gan gadw hyn mewn cof, mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i addasu’r adnodd Asesu Risg Covid-19 ar gyfer y Gweithlu yn benodol ar gyfer staff addysg sy’n agored i niwed neu’n wynebu risg. Bydd gweithgor, sy’n cynnwys cynrychiolwyr ysgolion y gwyddom eu bod yn cefnogi cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn cyfrannu at y gwaith hwn. Bydd hefyd yn cael cefnogaeth Gweinidogion gyda chynnig uniongyrchol i gyfarfod y gweithgor er mwyn sicrhau bod y gwaith yn symud ymlaen cyn gynted â phosib.

Rydym hefyd wedi medru cytuno ar broses ar gyfer uwchgyfeirio pryderon ynghylch cynnwys neu weithrediad asesiadau risg at lefel Weinidogol os nad oes modd eu datrys naill ai yn yr ysgol neu ar lefel awdurdod lleol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi medru cadarnhau y dylai ysgolion hysbysu eu hawdurdod lleol os byddant yn wynebu anawsterau yn sgil gwariant uwch angenrheidiol ar lanhau ysgolion, gan y byddai costau o’r fath yn gymwys ar gyfer Cronfa Galedi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu esboniad llawn o brofion gwrthgyrff ac antigenau Profi, Olrhain, Diogelu yn benodol ar gyfer staff mewn ysgolion. Darparwyd hyn i’r awdurdodau lleol a’r undebau llafur er mwyn iddynt ei ddosbarthu i’r holl staff mewn ysgolion. Mae hyn mewn cydnabyddiaeth o’r ffaith bod angen gwybodaeth glir am y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu. Mae’n ceisio codi hyder y staff bod y profion a’r trefniadau priodol yn eu lle i ymateb yn gyflym i achosion mewn ysgolion ac atal y feirws rhag lledaenu. Mae rhaglen fonitro gwrthgyrff yn ei lle er mwyn i ni weld pa mor gyffredin yw coronafeirws mewn ysgolion a lleoliadau addysg, a bydd hyn yn cael ei ehangu wrth i ni symud ymlaen i’r tymor nesaf.

Bydd Llywodraeth Cymru, CLlLC a’r undebau llafur yn casglu gwybodaeth hanfodol wrth i’r ysgolion ddychwelyd o 29 Mehefin ymlaen er mwyn helpu i ddarparu addysg i bob plentyn o fis Medi ymlaen. Rydym yn rhannu’r un nod o sicrhau dyfodol diogel a llwyddiannus i’n pobl ifanc, ac mae hyn yn gwbl ddibynnol ar leihau’n sylweddol yr holl amharu achoswyd gan y pandemig Covid-19 dros y tri mis diwethaf.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi medru gwneud y datganiad hwn ar y cyd heddiw. Drwy gydweithio, Cymru yw’r unig wlad yn y DU lle bydd cyfle gan bob un o’r disgyblion i ddychwelyd i’r ysgol cyn gwyliau’r haf.

Dywedodd Rosie Lewis, arweinydd ysgolion UNSAIN:

Mae UNSAIN yn falch iawn bod ein pryderon wedi cael gwrandawiad, a bod materion ynghylch asesiadau risg, y galw uwch am staff glanhau, a’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu wedi symud ymlaen.

Mae staff cymorth ysgolion yn rhan hanfodol bwysig o weithlu’r ysgol, ac mae’n hanfodol rhoi blaenoriaeth i’w lles nhw yn ogystal ag athrawon a disgyblion.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn rhoi ychydig yn fwy o eglurder ac, os bydd unrhyw anawsterau, mae proses glir bellach ar gael i roi sylw i unrhyw faterion lleol a’u hwchgyfeirio i Weinidog Llywodraeth Cymru os oes angen.

Dywedodd y Cynghorwyr Philippa Marsden ac Ian Roberts o CLlLC:

Rydyn ni’n croesawu’r sgyrsiau adeiladol sydd wedi bod yn cael eu cynnal dros yr wythnos ddiwethaf ac yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r undebau llafur wrth i ni ddarparu mwy o addysg mewn ystafelloedd dosbarth i blant ar hyd a lled Cymru.