Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ar apeliadau ar gyfer y graddau arholi a ddyfarnwyd eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhoddais gyfarwyddyd i Gymwysterau Cymru yn gynharach yr wythnos hon i ehangu’r sail ar gyfer apelio am Gymwysterau Safon Uwch, UG, Tystysgrif Her Sgiliau a TGAU.

Maen nhw wedi cadarnhau beth mae hyn yn ei olygu i fyfyrwyr. Yr wyf yn derbyn bod dysgwyr eisiau ac angen mwy o eglurder, a chredaf fod hyn yn cyflawni hynny.

Bydd Cymwysterau Cymru a CBAC yn rhannu'r manylion llawn, ond gellir nawr gwneud apeliadau pan fo tystiolaeth o asesiadau mewnol y mae'r ysgol neu'r coleg wedi barnu eu bod ar radd uwch na'r radd a ddyfarnwyd iddynt.

Mae sicrwydd na fydd neb yn cael gradd is wedi apelio, ac mae pob apêl yn rhad ac am ddim.